Yr Athro Glyn O Phillips yn marw yn 92 oed
- Cyhoeddwyd
Bu farw'r arbenigwr ar y diwydiant niwclear, yr Athro Glyn O Phillips, yn 92 oed.
Cyhoeddodd nifer o erthyglau am ei faes arbenigol, effaith pelydrau niwclear ar feinwe dynol a saernïo bio-ddefnyddiau newydd ar gyfer gwella clwyfau.
Roedd hefyd yn awdur neu'n olygydd 43 o lyfrau.
Ym Mehefin 2003 fe sefydlwyd Canolfan Ymchwil Glyn O Phillips yn Athrofa'r Gogledd Ddwyrain - Prifysgol Glyndwr, Wrecsam erbyn hyn - lle bu'n ymchwilio tan yn ddiweddar.
Cafodd canolfan ei enwi ar ei ôl ym Mhrifysgol Technoleg Hubei yn Cheina hefyd.
Yr Athro Phillips oedd y person cyntaf i ennill Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol.
Statws rhyngwladol
Cafodd Yr Athro Phillips ei eni yn Rhosllannerchrugog yn 1927 ac wedi ei addysg yn Ysgol Ramadeg Rhiwabon graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn cemeg ym Mangor.
Derbyniodd ddoethuriaeth mewn Athroniaeth ac yna mewn gwyddoniaeth am ei waith ymchwil mewn carbohydradau.
Enillodd gymrodoriaeth i Sefydliad Ynni Atomic Harwell, ac ar ôl dwy flynedd yno ymunodd â staff Coleg y Brifysgol yng Nghaerdydd yn 1954.
Cafodd ei benodi'n Uwch-ddarlithydd mewn Cemeg yno.
Ar ôl bod yn Athro Cemeg ym Mhrifysgol Salford aeth i Nigeria yn 1970 i sefydlu Prifysgol Benin ac ef oedd yr is-ganghellor cyntaf.
Roedd yn dymuno dychwelyd i Gymru, ac yn 1975 cafodd ei benodi yn brifathro cyntaf Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru.
Bu'n gadeirydd Trosglwydd Ymchwil Cyf a Chwmni Ymchwil Hidrocolloid Phillips Cyf ac ymgynghorydd i sawl sefydliad diwydiannol.
Roedd hefyd yn gyfrannwr cyson i raglenni radio a theledu BBC Cymru.
Medal wyddoniaeth yr Eisteddfod
Yr Athro Phillips oedd y person cyntaf i ennill Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol, a hynny yng Nghasnewydd yn 2004.
Dywedodd Llywydd Llys yr Eisteddfod ar y pryd, R Alun Evans, fod Yr Athro Phillips yn deilwng iawn o'r anrhydedd.
"Nid yn unig y mae ei gyfraniad i'r byd gwyddonol i'w werthfawrogi ond hefyd ei gyfraniad i ddiwylliant Cymru," meddai.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn fwy diweddar roedd yr Athro Phillips a'i deulu wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd.
Mae'n gadael gwraig, Rhiain, dau o blant - Aled ac Elen - tri o wyrion ac un gor-ŵyr.