Disgwyl i filoedd ymweld â Gŵyl Elvis ym Mhorthcawl
- Cyhoeddwyd

Bu myfyrwyr o Brifysgol De Cymru yn tynnu lluniau cefnogwyr Elvis ym Mhorthcawl y llynedd
Mae disgwyl tua 40,000 o bobl ym Mhorthcawl dros y penwythnos wrth i Ŵyl Elvis y dre' gychwyn.
Fe fydd mwy na 150 o berfformiadau gan ddynwaredwyr Elvis Presley fel rhan o'r digwyddiad sy'n dechrau dydd Sadwrn.
Roedd pryder am yr ŵyl eleni oherwydd gwrthwynebiad tîm priffyrdd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr i osod stondinau masnachwyr ar y stryd mewn un ardal o faes yr ŵyl.
Ond rhoddodd un o is-bwyllgorau trwyddedu'r cyngor drwydded amodol i'r trefnwyr godi'r stondinau mewn cyfarfod yr wythnos ddiwethaf.
Yn ôl y trefnwyr, canolbwynt yr ŵyl fydd cyfres o bortreadau o ddynwaredwyr gan yr artist Dan Llywelyn Hall.