Dysgu disgyblion ysgol am beryglon hudo ar y we
- Cyhoeddwyd
Mae'n bwnc sy'n dod yn fwyfwy o bryder i bobl ifanc a'u teuluoedd yng Nghymru - hudo ar y we.
Mae'n digwydd pan fo rhywun yn dod i adnabod plentyn ar-lein er mwyn cymryd mantais ohonyn nhw'n rhywiol.
Yn aml, dydy'r bobl ifanc ddim yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd, neu'n ei chael hi'n anodd dweud wrth rywun.
Ar hyn o bryd mae sioe theatrig yn teithio o amgylch ysgolion gogledd Cymru yn codi ymwybyddiaeth am hudo ac yn rhoi cyngor i ddisgyblion ynghylch sut i gadw'n ddiogel ar y we.
Gyda'i negeseuon cryf, mae'r sioe wedi'i hanelu at ddisgyblion Blwyddyn 8, sydd tua 12 oed, yn y gobaith o godi ymwybyddiaeth cyn ei bod hi'n rhy hwyr.
'Trosglwyddo'r neges'
Yn ôl un o actorion y sioe, Mari Fflur, mae'r ymateb yn gadarnhaol iawn: "Mae disgyblion yn ymateb lot mwy na mae athrawon yn disgwyl," meddai.
"Maen nhw'n gwybod mwy am y sefyllfa sy'n cael ei bortreadu yn y ddrama."
Aelod arall o'r cast yw Trystan ap Owen ac mae o'n credu bod sioe fel hon yn ffordd effeithiol o annog trafodaeth.
"Mae theatr mewn addysg yn ffordd dda iawn o drosglwyddo'r neges," meddai.
"Ar y dechrau mae lot o bethau hwyl yn digwydd ac wedyn chi'n gweld pethe'n mynd o chwith.
"Mae'r profiad theatrig yna'n mynd yn syth i'r gweithdy a'r plant yn cael trafod y peth."
'Peidio bod ofn siarad'
Ychwanegodd Mari: "Ni'n trio trafod hudo, grooming, cam-fanteisio rhywiol ar blant, secstio, pob math o betha'.
"Y neges 'da ni eisiau rhoi iddyn nhw ydy i beidio bod ofn siarad, allan nhw siarad efo'r heddlu, efo Childline, Barnardo's Cymru."
Mae'r sioe yn brosiect ar y cyd rhwng Barnardo's Cymru, Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru a'r heddlu.
Dywedodd PC Becca Davies, sy'n swyddog cyswllt yn ysgolion Gwynedd a Môn: "Mae sioe fel hyn yn helpu'n gwaith ni lot - mae'n agor o allan, maen nhw'n gwybod mwy am y pwnc, mae'n gwneud o'n fwy personol, maen nhw'n gallu gweld nhw yn y ddrama, be' maen nhw'n ei wneud bob dydd.
"Hefyd, ma' lot o'r negeseuon sy' yn y ddrama yn cysylltu 'efo be' 'da ni'n ei ddysgu mewn ysgolion felly mae'n gweithio'n dda.
"Mae'n broblem sy'n dod yn amlwg i ni fel heddlu. 'Da ni'n cael lot o broblemau hefo plant yn siarad ar y we hefo pobl, hefyd cam-fanteisio rhywiol ar blant.
"Mae'n broblem fawr ar y funud ac mae'n bwysig bod plant a rhieni'n gwybod amdano a sut i gadw'n ddiogel."
'Ffordd dda o ddysgu'
Mae 'na weithdy wedi pob perfformiad, sy'n gyfle i'r plant sôn fwy am y pwnc ac unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw.
Bu Cymru Fyw'n holi rhai o ddisgyblion Ysgol David Hughes, Porthaethwy am eu barn nhw ar ôl gwylio'r sioe: "O'dd o braidd yn disturbing ond roedd o am fod oherwydd y thema... roedd o 'di cael ei wneud yn ofnadwy o dda ac yn dangos y neges yn gryf iawn a dysgu ni am be' sy'n gallu digwydd heddiw.
"Mae'n ffordd dda o ddysgu pobl sut i siarad efo pobl... dwi'n meddwl bod o 'di gwneud i ni feddwl be' sy'n gallu digwydd a be' alla' ni ei wneud am y peth.
"'Dan ni 'di dysgu i ddweud wrth rywun yn lle cadw'r peth i ni'n hunain."
Mae'r sioe ar daith o amgylch ysgolion y gogledd ar hyn o bryd a'r gobaith yw ehangu'r prosiect i rannau eraill o Gymru maes o law.