Prinder 'difrifol' o ddiffoddwyr tân yng nghefn gwlad

  • Cyhoeddwyd
Injan dân

Mae rhai gorsafoedd tân yng nghefn gwlad Cymru yn dibynnu ar ddiffoddwyr o'r tu allan i'w hardaloedd i gadw injans tân ar y ffordd.

Mae wedi arwain at Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i apelio am fwy o bobl i hyfforddi fel diffoddwyr wrth gefn.

Fe wnaeth nifer y diffoddwyr rhan amser yng Nghymru gyrraedd ei lefel isaf am naw mlynedd y llynedd, a gogledd Cymru sydd wedi gweld y cwymp mwyaf, o 577 i 390.

Mae gan ddiffoddwyr wrth gefn swyddi eraill, ac maen nhw'n mynychu'r orsaf dân i ymateb i alwadau brys yn unig.

Mae rheolwr gorsaf dân Cerrigydrudion yn sir Conwy, Mike Plant, yn apelio ar bobl i ystyried gyrfa fel diffoddwr wrth gefn, gan ddweud bod y sefyllfa yn "ddifrifol".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mike Plant eu bod yn dibynnu ar ddiffoddwyr o du allan i'r ardal am help

Mae angen pedwar o bobl i ymateb i alwadau brys, meddai, ond dim ond tri o ddiffoddwyr wrth gefn sydd yn yr ardal leol.

"Rydyn ni wedi gorfod dibynnu ar ddau ddiffoddwr o ardaloedd arall i ddod yma i gadw'r injan dân yn weithredol," meddai.

"Mae hon yn broblem i gefn gwlad Cymru gyfan."