Gwaith gwrth-hudo Prifysgol Abertawe i atal pedoffiliaid
- Cyhoeddwyd
Bydd deunydd i geisio atal plant rhag cael eu hudo ar y we gan bedoffiliaid yn cael ei lansio gan Brifysgol Abertawe.
Fe wnaeth ymchwilwyr astudio'r iaith a'r technegau gafodd eu defnyddio gan bobl oedd wedi'u dedfrydu o droseddau yn ymwneud â'r rhyngrwyd.
Dechreuodd y gwaith yn 2012, a hynny oherwydd diffyg gwaith yn y gorffennol ar dechnegau troseddwyr.
Bydd y deunydd Stop Time Online yn cael ei roi i weithwyr cymdeithasol ac mae'n cael ei brofi yng nghanolfannau gwasanaeth yr NSPCC yn Abertawe, Caerdydd a Phrestatyn.
Dros y pum mlynedd diwethaf mae 155 person yng Nghymru wedi eu hadrodd i'r heddlu am gyfarfod plentyn ar ôl eu hudo.
Fe wnaeth y tîm o Brifysgol Abertawe astudio sgyrsiau 200 o droseddwyr wnaeth hudo plant ar-lein. Mewn un achos dim ond 20 munud gymerodd hi i berswadio plentyn i gyfarfod.
Llynedd fe wnaeth 85 o blant yng Nghymru gysylltu â Childline ynglŷn â throseddau rhyw ar-lein - rhan o'r cynnydd o 24% mewn galwadau ar draws y DU.
Dywedodd Ruth Mullineux o NSPCC Cymru fod diogelwch ar-lein yn "fater mawr o ran diogelwch plant yn yr 21ain ganrif" a bod ymchwil ac addysg yn "hollbwysig" wrth warchod plant.
Yn 2016-17 fe wnaeth yr elusen gynnal 12,248 sesiwn gynghori ar draws y DU ar ddiogelwch ar-lein a cham-drin, cynnydd o 9% ar y flwyddyn gynt.
Dywedodd yr Athro Nuria Lorenzo-Dus o Brifysgol Abertawe, wnaeth arwain yr ymchwil: "Mae hudo plant ar y we yn un o'r bygythiadau troseddol ar-lein mwyaf llechwraidd i'n cymdeithas sifil.
"Mae'r prosiect yma'n helpu i ddiogelu dyfodol digidol rhai o aelodau mwyaf gwerthfawr a bregus ein cymdeithas."