David Brooks yng ngharfan Cymru am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd
Mae Chris Coleman wedi cyhoeddi carfan Cymru i wynebu Georgia a Gweriniaeth Iwerddon, gyda David Brooks wedi'i gynnwys am y tro cyntaf.
Mae Brooks, chwaraewr canol cae 20 oed Sheffield United, yn y garfan ar ôl penderfynu cynrychioli Cymru dros Loegr.
Cafodd golwr Preston North End, Chris Maxwell, 27, hefyd ei gynnwys am y tro cyntaf, gan gymryd lle Adam Davies.
Dyw'r amddiffynwyr Jazz Richards a James Collins ddim yn y garfan oherwydd anafiadau, ond mae prif sêr eraill y garfan i gyd wedi eu cynnwys.
Chwaraewr y twrnament
Mae Ben Woodburn yn cadw ei le yn y garfan wedi iddo serennu yn erbyn Awstria a Moldofa ddechrau mis Medi, ac mae amddiffynnwr 17 oed Chelsea, Ethan Ampadu hefyd wedi'i gynnwys unwaith eto.
Mae Brooks, Maxwell ac Ampadu ymysg pum chwaraewr all ennill eu capiau cyntaf, ynghyd â Tom Lockyer a Marley Watkins.
Cafodd Brooks ei enwi yng ngharfan dan-20 Cymru ar gyfer Twrnament Toulon yn yr haf, cyn tynnu allan a chael ei enwi yng ngharfan Lloegr ar gyfer yr un gystadleuaeth.
Aeth ymlaen i ennill tlws chwaraewr y twrnament wrth i dîm dan-20 Lloegr ennill y gystadleuaeth, ond trodd yn ôl at Gymru i gynrychioli'r tîm dan-21 ddechrau mis Medi.
Gemau ail-gyfle?
Mae'n dal yn bosib i Gymru ennill Grŵp D, gyda Serbia ar y blaen o bedwar pwynt cyn y ddwy gêm olaf.
Ond mae'n debygol mai ennill y ddwy gêm i orffen yn yr ail safle, a gobeithio y bydd hynny'n ddigon i gyrraedd y gemau ail-gyfle fydd y tîm hyfforddi.
Wyth o'r naw tîm fydd yn gorffen yn ail yn eu grŵp fydd yn hawlio lle yn y gemau ail-gyfle i gyrraedd Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia.
Bydd Cymru'n herio Georgia yn Tbilisi ar 6 Hydref cyn croesawu Gweriniaeth Iwerddon i Gaerdydd ar nos Lun, 9 Hydref.
Y garfan yn llawn:
Golwyr: Wayne Hennessey (Crystal Palace), Danny Ward (Lerpwl), Chris Maxwell (Preston North End).
Amddiffynwyr: Ben Davies (Tottenham Hotspur), James Chester (Aston Villa), Neil Taylor (Aston Villa), Chris Gunter (Reading), Ashley Williams (Everton), Tom Lockyer (Bristol Rovers), Ethan Ampadu (Chelsea).
Canol cae: Joe Allen (Stoke City), David Edwards (Reading), Andy King (Caerlŷr), David Brooks (Sheffield United), Joe Ledley (Derby County), Aaron Ramsey (Arsenal), Jonny Williams (Crystal Palace).
Ymosodwyr: Marley Watkins (Norwich), Hal Robson-Kanu (West Bromwich Albion), Sam Vokes (Burnley), Gareth Bale (Real Madrid), Ben Woodburn (Lerpwl), Tom Lawrence (Derby County).
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Medi 2017