Cwpan y Byd: A fydd Cymru yn cyrraedd Rwsia 2018?

  • Cyhoeddwyd
wal goch
Disgrifiad o’r llun,

A fydd y Wal Goch yn y Sgwâr Coch ha' nesa'?

Mae gan dîm pêl-droed Cymru ddwy gêm yn weddill yn yr ymgyrch i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia.

Prin iawn yw'r gobaith o ennill Grŵp D erbyn hyn, ac ail yw Cymru ar hyn o bryd.

Felly beth sy'n rhaid i dîm Chris Coleman ei wneud i sicrhau eu lle yn y gystadleuaeth?

Y cyngor cyntaf yw gwnewch baned i chi'ch hun ac eisteddwch mewn cadair gyfforddus - mae'n gymhleth!

Ennill y grŵp?

Mae'r gobeithion yn brin, ydyn, ond yn fathemategol mae'n dal yn bosibl.

Fe fyddai'n rhaid i Gymru ennill y ddwy gêm sy'n weddill - oddi cartre' yn Georgia ar nos Wener, 6 Hydref a gartre' ar nos Lun 9 Hydref yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon - ond hefyd gobeithio y bydd Serbia'n methu cipio mwy na phwynt yn eu dwy gêm nhw yn erbyn Awstria a Georgia.

Gan fod gwahaniaeth goliau Serbia yn well na Chymru, fe fydd angen i Gymru ennill y ddwy gêm o fwy nag un gôl petai Serbia'n cael dwy gêm gyfartal.

Fe fydd enillydd y grŵp yn mynd yn syth i Rwsia, ond yn y bôn, mae'n annhebygol iawn y bydd Cymru'n gwneud hynny.

Gorffen yn ail?

Mae naw o grwpiau yn y rowndiau rhagbrofol, a bydd yr wyth gorau o'r rheiny sy'n gorffen yn ail yn mynd ymlaen i'r gemau ail-gyfle ym mis Tachwedd.

Un peth sy'n sicr felly, mae'n RHAID i Gymru orffen yn yr ail safle yn y grŵp.

Byddai curo Gweriniaeth Iwerddon yn y gêm olaf yn ddigon i sicrhau'r ail safle, ond go brin y bydd hynny yn ei hun yn ddigon i'r gemau ail-gyfle.

O'r naw tîm sydd yn yr ail safle ar hyn o bryd, Cymru sydd â'r record salaf... sydd ddim yn ddigon da i fynd ymlaen.

Pan fydd y gemau rhagbrofol i gyd ar ben, mae'r naw tîm ar frig bob grŵp yn mynd yn syth i'r rowndiau terfynol, ond yna cyn barnu record bob tîm sy'n ail mae'r canlyniadau yn erbyn y tîm sydd ar waelod y grŵp yn cael eu diystyru, felly ni fydd buddugoliaethau Cymru yn erbyn Moldofa yn cyfri'.

Pam? Wel pan ddaeth yr enwau o'r het ar gyfer y rowndiau rhagbrofol, dim ond pum tîm oedd yn grwpiau H ac I felly dyma oedd y ffordd i wneud pethau'n deg i'r grwpiau yna.

Ers hynny mae Gibraltar a Kosovo wedi cael eu derbyn i'r gystadleuaeth a'u hychwanegu at grwpiau H ac I - sy'n golygu bod chwe thîm ymhob grŵp - ond fe benderfynodd yr awdurdodau i beidio newid y rheol wreiddiol.

Pwy all Cymru eu pasio?

Disgrifiad o’r llun,

'Peidiwch gofyn i fi - sgen i ddim syniad!'

Dyma'r cwestiwn mawr, a dyma lle mae'r mathemateg yn dechrau mynd yn ddryslyd.

Does dim dwywaith mai Grŵp H sy'n rhoi'r gobaith gorau i Gymru. Bosnia-Herzegovina sy'n ail yn y grŵp ar hyn o bryd, gyda'r un nifer o bwyntiau â Chymru ond gwahaniaeth goliau fymryn bach yn well.

Gêm nesa' Bosnia yw'r un yn erbyn Gwlad Belg - sydd eisoes wedi ennill y grŵp - felly pe bai Bosnia'n colli a Chymru'n cipio pwynt yn Georgia, byddai curo Gweriniaeth Iwerddon yn ddigon... bron!

Dau dîm arall yng Ngrŵp H yw Groeg a Chyprus - sy'n wynebu ei gilydd yn y gêm nesaf.

Does dim amheuaeth mai gêm gyfartal rhwng y ddau fyddai'r canlyniad gorau i Gymru, er mwyn sicrhau nad ydyn nhw'n cael digon o bwyntiau i basio Bosnia (a Chymru) chwaith.

Unrhyw obaith arall?

Oes yn sicr, a Grŵp I yw'r gorau o bosib, ac fe fydd angen cyfrifiannell arnoch chi!

Mae pedwar tîm yn dal â gobaith o ennill y grŵp - sef Croatia, Gwlad yr Iâ, Twrci ac Iwcraen - a'r un pedwar hefyd â gobaith o orffen yn ail.

Disgrifiad o’r llun,

'Ro'n i angen gradd i weithio hyn allan!'

Y disgwyl yw y bydd y pedwar yn curo Kosovo ddwywaith, ac mae'n bosib iawn felly y bydd y tîm sy'n gorffen yn ail â record salach na Chymru.

Bydd gemau Grŵp I yn cael eu chwarae ar yr un noson a gemau Cymru, ac fe fydd angen cadw golwg ar y canlyniadau.

Grŵp A wedyn - unwaith eto mae pedwar tîm yn dal yn y ras am gyntaf ac ail yn y grŵp yma, sef Ffrainc, Sweden, Yr Iseldiroedd a Bwlgaria.

Efallai mai gobaith gorau Cymru yw gobeithio y bydd Ffrainc ar y brig, a bod pa bynnag un o'r tri arall sy'n gorffen yn ail yn ildio pwyntiau yn y ddwy gêm olaf.

Mae gobaith hefyd yng Ngrŵp F sy'n debygol o gael ei ennill gan Loegr - byddai cael Yr Alban yn trechu Slofacia gartref, cyn colli oddi cartref yn Slofenia, yn help mawr wrth geisio sicrhau fod gan bwy bynnag o'r tri thîm yna sy'n gorffen yn ail record waeth na Chymru erbyn y diwedd.

Mae'r gobaith yn llai yng Ngrŵp E, ond byddai gêm gyfartal rhwng Montenegro a Denmarc ar 5 Hydref yn hwb i Gymru, gan mai un o'r ddau yma sy'n debyg o orffen yn ail yn y grŵp.

Ydy, mae'n gymhleth!

Yr unig gyngor pendant yw: peidiwch trafferthu edrych ar ganlyniadau grwpiau B, C na G - does dim gobaith o gwbl yn fanna i Gymru.

Byddai dwy fuddugoliaeth yn gwella gobeithion y Wal Goch o fedru teithio i Rwsia yr haf nesa'.

Byddai gêm gyfartal yn Georgia ddim yn ddiwedd y byd, cyn belled a'n bod ni'n curo'r Gwyddelod a bod Gwlad Belg yn gwneud ffafr fawr â ni drwy guro Bosnia.

Disgrifiad o’r llun,

'Wyt ti'n siwr fod y ffigyrau yna'n iawn?'

Byddai'n bosib gorffen yn ail yn y grŵp gyda dwy gêm gyfartal os fydd rhai o'r canlyniadau eraill yn rhyfedd dros ben, ond fyddai hynny ddim yn ddigon i'r gemau ail-gyfle.

OND... ennill y ddwy ac fe fydd Cymru mewn lle go lew i fynd ymlaen i'r gemau ail-gyfle, ac fe all cefnogwyr Cymru i gyd ymlacio AM FIS CYFAN tan y ddwy gêm gwbl dyngedfennol ym mis Tachwedd.

Dyw dilyn tîm pêl-droed Cymru erioed wedi bod yn hawdd...

C'MON CYMRU!

Disgrifiad o’r llun,

'Ah... dwi'n deall nawr - diolch!'