Nifer uchaf erioed yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Hanner Marathon Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd 25,000 o redwyr yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd eleni

Mae'r nifer uchaf erioed, 25,000, wedi cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul.

Rhedeg Cymru oedd yn trefnu'r digwyddiad eto eleni, ac roedd mesurau diogelwch ychwanegol yn eu lle wedi ymosodiadau terfysgol diweddar yn Llundain a Manceinion.

Roedd swyddogion o Heddlu De Cymru yn bresennol yn y brifddinas gyda dros 100,000 o bobl yn mynychu'r digwyddiad.

Roedd Hanner Marathon Caerdydd yn cychwyn y tu allan i Gastell Caerdydd am 10:00 fore Sul.

Ac roedd rhedwyr yn mynd heibio Stadiwm Dinas Caerdydd i Benarth, ar hyd y morglawdd i Fae Caerdydd, heibio Parc y Rhath cyn gorffen ym Mharc Cathays.

Roedd Cyngor Caerdydd eisoes wedi rhybuddio bod disgwyl i'r ddinas fod yn "hynod brysur", ac roedd newidiadau i'r gwasanaeth rheilffordd yn y rhanbarth.

Hanner Marathon CaerdyddFfynhonnell y llun, Hanner Marathon Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Dyma fap o'r ffyrdd fydd ynghau yn ystod Hanner Marathon Caerdydd

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Richard Lewis: "Fe wnawn barhau i weithio gyda'r trefnwyr i adolygu'r ffordd byddwn yn ymateb i'r math yma o ddigwyddiad yn dibynnu ar y wybodaeth byddwn yn ei dderbyn."

Ers yr hanner marathon cyntaf yng Nghaerdydd yn 2003, mae'r achlysur wedi tyfu i fod y drydedd digwyddiad mwyaf poblogaidd o ran y nifer sy'n cymryd rhan y tu ôl i Marathon Llundain a'r Great North Run.

Mae'r nifer o redwyr eleni wedi chwalu'r hen record o 22,000 a osodwyd yn 2016.