Chris Gunter yn ennill gwobr chwaraewr y flwyddyn CBDC
- Cyhoeddwyd
Amddiffynnwr Reading, Chris Gunter sydd wedi'i enwi fel chwaraewr y flwyddyn Cymru, gan ddod â rhediad Gareth Bale o ennill y wobr i ben.
Ond seren Real Madrid wnaeth ennill gwobr y chwaraewyr, a chwaraewr canol cae Stoke, Joe Allen, oedd chwaraewr y cefnogwyr.
Bale oedd wedi ennill gwobr chwaraewr y flwyddyn yng ngwobrau Cymdeithas Bêl-droed Cymru am y pedair blynedd diwethaf.
Laura O'Sullivan wnaeth ennill gwobr chwaraewr merched y flwyddyn, gydag Angharad James yn ennill gwobr y chwaraewyr a Jessica Fishlock yn chwaraewr y cefnogwyr.
Ben Woodburn a Peyton Vincze gafodd wobrau chwaraewyr ifanc y flwyddyn.
Fe gafodd Ian Rush ei gyflwyno â gwobr arbennig, tra mai Craig Williams o'r Drenewydd enillodd wobr chwaraewr clwb y flwyddyn yn Uwch Gynghrair Cymru.
Chwaraewr canol cae Reading, David Edwards wnaeth ennill gwobr dewis y cyfryngau.
Enillwyr gwobrau Cymdeithas Bêl-droed Cymru 2017
Gwobrau'r dynion
Chwaraewr y flwyddyn: Chris Gunter
Chwaraewr y cefnogwyr: Joe Allen
Chwaraewr ifanc: Ben Woodburn
Dewis y cyfryngau: David Edwards
Dewis y chwaraewyr: Gareth Bale
Gwobr arbennig CBDC: Ian Rush
Chwaraewr clwb y flwyddyn UGC: Craig Williams
Gwobrau'r merched
Chwaraewr y flwyddyn: Laura O'Sullivan
Chwaraewr ifanc y flwyddyn: Peyton Vincze
Dewis y chwaraewyr: Angharad James
Chwaraewr y cefnogwyr: Jess Fishlock