Cwestiynu grant gan Lywodraeth Cymru i gwmni Admiral
- Cyhoeddwyd
Mae strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru wedi cael ei beirniadu ar ôl i grant o bron i £700,000 gael ei roi i gwmni Admiral i greu tua 200 o swyddi.
Dywedodd yr arbenigwr busnes, yr Athro Dylan Jones-Evans o Brifysgol De Cymru mai penderfyniad "od" oedd rhoi arian cyhoeddus i un o gwmnïau mwyaf y sector preifat yng Nghymru.
Cafodd y swm ei roi i'r cwmni wrth iddyn nhw anelu at gynnig benthyciadau personol yn y dyfodol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru na fyddan nhw'n ymddiheuro am greu swyddi newydd.
Yn ôl llefarydd ar ran Admiral, maen nhw'n "falch" bod menter newydd y cwmni'n cael ei lansio yng Nghaerdydd.
Fe fydd y 193 o swyddi gwasanaethau cwsmeriaid a gwerthiant yn cael eu creu wedi cais llwyddiannus am grant gwerth £668,500 o gynllun busnes y llywodraeth.
Mae Admiral yn cyflogi dros 6,000 o bobl yng Nghymru a dyma'r unig gwmni sydd â lle ym mynegai 100 cwmni mwyaf y Farchnad Stoc yn Llundain.
Yn hanner cynta' eleni, fe wnaethon nhw elw o £193m.
'Peth mwyaf od'
Dywedodd yr Athro Jones-Evans: "Mae'n rhaid edrych yn fanwl iawn 'wyrach ar sut mae Llywodraeth Cymru yn ariannu busnesau yng Nghymru.
"Mae o'r unig gwmni FTSE-100 yng Nghymru, yng Nghaerdydd, cyflogi 6,000 o bobl - mae o'n beth mwyaf od bod arian trethdalwyr Cymru wedi mynd i gefnogi'r cwmni yma."
Cafodd amheuon eu codi hefyd gan lefarydd economi Plaid Cymru, Adam Price.
"Dwi'n poeni i ddweud y gwir, ydyn ni'n mynd i gwympo i'r un hen fagl unwaith eto o daflu arian at gwmnïau mawrion sydd ddim angen y pres," meddai.
"Efallai y byddai'r swyddi yma wedi digwydd beth bynnag, pwy a ŵyr.
"Ar adeg lle mae adnoddau yn brin mae'n rhaid cwestiynu a ydyn ni'n gwastraffu ein harian ni unwaith eto."
'Cystadleuaeth ryngwladol'
Ond dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod Admiral yn "llwyddiant pwysig i Gymru" a'u bod "ddim am ymddiheuro am gefnogi creu 200 o swyddi yng Nghymru".
Ychwanegodd: "Rydym yn falch bod cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi galluogi bwrdd Admiral i gyflwyno achos ariannol dros leoli'r buddsoddiad yma yng Nghymru yn wyneb cystadleuaeth ryngwladol."
Fe ddywedodd Admiral bod "Cymru yn un o'r canolfannau gwasanaethau ariannol sy'n tyfu gyflymaf yn y DU" a bod y cwmni "yn falch o fod yn gallu lansio'r fenter newydd hon yn y farchnad benthyca yn ein cartref, Caerdydd."