Ymchwilio i gostau gofal cymdeithasol

  • Cyhoeddwyd
gofalFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol i gynnal ymchwiliad i'r gost o ofalu am boblogaeth sy'n heneiddio.

Ymysg y pynciau fydd yn rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid bydd astudio patrymau yn y galw am wasanaethau cymdeithasol ar gyfer pobl o oedran pensiwn, a'r pwysau ariannol ar y system gofal cymdeithasol.

Fe fydd y pwyllgor hefyd yn trafod anawsterau recriwtio a chadw staff a chostau gofal cymdeithasol yn y dyfodol.

Cadeirydd y Pwyllgor yw AC Plaid Cymru, Simon Thomas.

"Mae Cymru'n heneiddio'n gyflymach nag unrhyw genedl arall yn y DU, felly mae'n hanfodol bod y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cywir ar waith i ymdopi nid yn unig nawr, ond yn y dyfodol," meddai.

"Fel rhan o'n hymchwiliad, bwriadwn edrych yn fanwl ar effaith ariannol polisïau Llywodraeth Cymru ar awdurdodau lleol, darparwyr gofal a defnyddwyr gwasanaeth deddfwriaeth gwasanaethau cymdeithasol diweddar a diwygiadau i gyllid gofal cymdeithasol.

"Byddwn hefyd yn asesu'r rhwymedigaethau cyllidol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r trefniadau ar gyfer ariannu gofal cymdeithasol i sicrhau gwasanaeth o ansawdd da, teg a chynaliadwy mewn cyfnod o ofynion cynyddol ar y systemau iechyd a gofal cymdeithasol."

Fel rhan o'r ymchwiliad bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal tan 10 Rhagfyr.