Gyrwyr tacsis yn gwrthod pobl ag anableddau

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Glyn Furnival-Jones: "Dwi'n teimlo 'mod i'n broblem"

Mae mudiad sy'n cynrychioli pobl sydd ag anableddau yng Nghymru yn dweud bod rhai gyrwyr tacsis a cherbydau llogi preifat yn gwrthod codi teithwyr sy'n defnyddio cadeiriau olwyn neu gŵn tywys.

Yn ôl Anabledd Cymru mae pobl yn cael eu hanwybyddu a'u "gadael heb unrhyw ffordd i fynd adref ac wedi eu bychanu".

Maen nhw'n dweud y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio pwerau newydd trafnidiaeth er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl sydd ag anableddau yn cael eu trin yn deg gan yrwyr tacsis.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn bwriadu cyflwyno safonau cenedlaethol newydd er mwyn "rhoi diwedd ar arferion drwg."

'Torcalonnus'

Mae Glyn Furnival-Jones o Gaerdydd yn byw gyda sglerosis ymledol ac mae'n defnyddio cadair olwyn a sgwter.

Mae gyrwyr tacsis a chabiau wedi gwrthod mynd ag o adref sawl gwaith, meddai, am eu bod nhw'n meddwl na fydd o eisiau teithio'n bell ac yn "ormod o drafferth iddyn nhw".

"Gwaeth fyth ydy'r rhai sydd yn gallu mynd â rhywun yn y tacsis mawr... nhw'n dweud bod nhw rhy brysur neu fod nhw efo pethau yn y cefn, neu unwaith ges i fod y tacsi hwn ddim ar gyfer cadeiriau olwyn ond ar gyfer pramiau.

"Mae pethau fel 'na yn dorcalonnus rili," meddai.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn golygu nad oes hawl gan yrwyr tacsis a cherbydau llogi preifat wrthod cludo teithwyr sydd ag anabledd, neu rhai sydd yn defnyddio ci tywys, oni bai bod gan y gyrrwr afiechyd meddygol - er enghraifft problemau cefn neu alergedd tuag at gŵn.

Ond mae'n rhaid iddyn nhw allu profi hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nicki yn dweud ei bod wedi teimlo yn alltud pan mae gyrwyr yn gwrthod rhoi lifft iddi

Nid dim ond unigolion sy'n defnyddio cadeiriau olwyn sydd yn honni bod rhai gyrwyr yn gwrthod eu cludo. Mae rhai sydd gyda phroblemau gweld yn dweud yr un peth.

Mae Nicki Cockburn yn hollol ddall ac mae ganddi gi tywys.

"Mae rhai yn dweud yn syth alli di roi'r ci yng nghist y car. Mae eraill yn trio gwneud i mi dalu punt yn fwy am eu bod nhw'n dweud bod y ci wedi bod yn colli ei flew a'u bod nhw yn gorfod hwfro.

"Dw i wedi cael rhai yn dweud na fyddan nhw yn mynd â fi am fod gyda nhw alergedd tuag at gŵn, ond does dim tystysgrif gyda nhw sydd yn profi hynny."

Y flwyddyn nesaf bydd Deddf Cymru yn dod i rym a bydd pwerau trwyddedu tacsis a cherbydau preifat yn cael eu datganoli.

Galw am hyfforddiant

Mae Llywodraeth Cymru newydd orffen ymgynghoriad sydd yn edrych ar osod safonau newydd ar gyfer tacsis a cherbydau preifat.

Yn ôl Anabledd Cymru mae angen gwneud mwy i amddiffyn teithwyr sydd ag anableddau. Mae'r mudiad yn galw am gyfreithiau cryfach yn erbyn gwahaniaethu ar sail anabledd person a hyfforddiant cydraddoldeb.

Mae gan gynghorau lleol y pwerau i wahardd neu ddirymu trwydded yrru ac fe allan nhw gael cosb ariannol gwerth £1,000. Ond prin yw'r nifer o bobl sydd ag anableddau sydd yn cwyno.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gyrwyr tacsi yng Nghaerdydd wedi cael hyfforddiant priodol medd grŵp Gyrwyr Tacsi Caerdydd

Mae tua 9,200 o yrwyr tacsi neu rhai sydd yn gyrru cerbydau preifat yng Nghymru. Yn eu plith mae Keith Shackwell a fo yw llefarydd grŵp Gyrwyr Tacsi Caerdydd.

Mae'n dweud bod gyrwyr yn y ddinas wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth anabl.

"Does dim rheswm iddyn nhw wrthod cymryd person anabl. Dwi'n meddwl yr hyn sy'n digwydd ydy bod nifer o geir yn dod dros y ffin i Gaerdydd a does gyda nhw ddim yr hyfforddiant ymwybyddiaeth, a dw i'n meddwl o fanna mae'r problemau yn dod."

Mae Llywodraeth Cymru newydd orffen ymgynghoriad ar ddyfodol y drefn o roi trwyddedau i yrwyr tacsi.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Economi ac Isadeiledd, Ken Skates: "Rwyf am wneud yn siŵr ein bod yn sicrhau safon llawer gwell o wasanaethau, ein bod yn mabwysiadu ymarfer da ond ein bod hefyd yn rhoi diwedd ar arferion drwg."