Galw ar S4C i chwarae rhan wrth geisio cyrraedd y miliwn
- Cyhoeddwyd
Ar drothwy pen-blwydd S4C yn 35 oed mae galwadau ar i'r sianel chwarae rhan flaenllaw wrth geisio cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.
Daw sylwadau Cynog Dafis, cyn Aelod Cynulliad a chyn Aelod Seneddol, mewn rhaglen ar BBC Radio Cymru, sy'n ystyried pa mor berthnasol yw rôl S4C i nod y llywodraeth o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Dywedodd Mr Dafis bod angen "meddwl o'r newydd" ynglŷn ag S4C, tra bod yr Arglwydd Elis-Thomas wedi galw am "ddiwygiad llwyr" o reolaeth y sianel.
Mae cadeirydd S4C wedi dweud ei fod yn cytuno bod angen i'r sianel "esblygu drwy'r amser", ond bod y sianel a'r broses greadigol o greu cynnwys "yn elfen greiddiol yn y broses o gadw'r Gymraeg yn fyw".
Yn siarad ar Radio Cymru, dywedodd Mr Dafis: "Allwch chi ddim gwahanu darlledu wrth yr holl bethau eraill sydd angen eu gwneud i gryfhau'r Gymraeg.
"Mae eisiau meddwl o'r newydd a gweld S4C fel ffynhonnell ar gyfer datblygu deunydd o bob math i gryfhau a datblygu lle'r Gymraeg yn y cyfryngau yn gyffredinol, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol.
"Mae hynny wedyn yn golygu bod S4C yn gweld ei hun yn rhan o'r prosiect i adnewyddu, adfywio a thyfu yr iaith Gymraeg yng nghyd-destun y miliwn."
Mae Cadeirydd S4C, Huw Jones yn dweud bod y sianel yn "ymwybodol iawn bod ganddi rôl bwysig i'w chwarae yn y broses o gynnal a datblygu'r iaith o Cyw i Dal Ati, o Stwnsh i Hansh ac o gyfresi fel Cariad at Iaith i'r gwaith sy'n cael ei wneud ar y cyd ag ysgolion ar hyd a lled Cymru ar hyd y flwyddyn".
Ychwanegodd: "Mae yna eisoes gydweithio i ddatblygu defnyddiau addysgiadol ar y cyd â chyrff sy'n derbyn arian gan Lywodraeth Cymru.
"Mae deunydd sylweddol o'r archif ar gael at wasanaeth ysgolion a cholegau drwy ein partneriaeth gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
"Mae sicrhau bod holl archif cyfoethog S4C ar gael i bwrpasau addysgiadol ac ar gyfer y cyhoedd yn un o amcanion sylfaenol ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol."
'Angen diwygiad llwyr'
Mae'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn dweud bod rhaid edrych o'r newydd ar beth yw byw mewn cenedl ddwyieithog, a sut mae creu cyfleoedd i ddwyieithrwydd.
Dywedodd: "Mae'n amlwg bod yn rhaid i'r holl ddiwydiannau cyfathrebu a'r diwydiannau digidol a'r holl gyfryngau sydd gyda ni drafod y materion yma gyda'i gilydd.
"Mae angen diwygiad llwyr yn llywodraethiad y sianel."
Ychwanegodd bod angen sicrhau bod deunydd Cymraeg "ar bob cyfrwng, ar bob llwyfan".
"Rhaid cael pethau ar apiau ac yn y blaen, nid jyst ar un sianel. Rhaid cydweithio gyda chyfundrefnau eraill megis Google a Microsoft," meddai.
"Dwi'n meddwl bod rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd rôl arweiniol - y ffordd ymlaen yw partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, cwmnïau masnachol ac awdurdodau darlledu - p'run ai ydan nhw'n Brydeinig neu'n rhyngwladol."
'Elfen greiddiol'
Ychwanegodd Mr Jones: "Rhaid peidio colli golwg ar yr un peth unigryw y mae S4C yn ei wneud, sef darparu ar y teledu, neu ar sgriniau bach, ar yr iPlayer a'r ffôn, wasanaeth Cymraeg amrywiol, gyda rhywbeth at bob chwaeth, bob dydd o'r wythnos ar hyd y flwyddyn.
"Yn naturiol, 'da ni'n cytuno bod yn rhaid i'r gwasanaeth esblygu drwy'r amser i gwrdd â gofynion gwylwyr a defnyddwyr fel maen nhw'n newid.
"Mae'r camau breision sydd wedi eu cymryd i greu deunydd ar gyfer y cyfryngau digidol yn rhan o hynny, ac rydym am wneud llawer mwy.
"Ond mae bodolaeth y gwasanaeth yma, a'r ffaith ei fod yn sbarduno ac yn dibynnu ar greadigrwydd a chynnwys gwreiddiol o bob math, yn elfen greiddiol yn y broses o gadw'r Gymraeg yn fyw yng nghartrefi'r bobl sy'n ei siarad eisoes, ac o roi'r cyfle i'r rheiny sydd ac a fydd yn awyddus i'w dysgu, i gamu i mewn i ddiwylliant cyfoethog a chyfoes Cymraeg unrhyw awr o'r dydd."
S4C a'r Miliwn - dydd Iau am 12:00 ar BBC Radio Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Awst 2016
- Cyhoeddwyd18 Mai 2017
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2016