Cyhoeddi ras marathon newydd i Gasnewydd yn Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd
Bydd ras marathon yn cael ei chynnal yng Nghasnewydd ym mis Ebrill 2018.
Fe gyhoeddodd y trefnwyr Run 4 Wales, sy'n gyfrifol am Hanner Marathon Caerdydd a Velothon Cymru, y byddai'r digwyddiad ar 29 Ebrill yn diwallu'r galw am ras 26.2 milltir torfol yng Nghymru.
Mae'r cynllun yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, Sir a Dinas Casnewydd a'r cwmni ABP, sy'n berchen ar y porthladd yn y ddinas.
Yn ôl y trefnwyr mae cynnal y ras ar ddiwedd mis Ebrill yn "ddelfrydol" ar gyfer y calendr marathon a'i fod yn darparu "y cyfle perffaith i'r 210,000 o redwyr fydd yn methu a chael lle yn Marathon Llundain i redeg ar hyd llwybr o safon byd-eang".
'Codi proffil y ddinas'
Bydd y ras yn cael ei chynnal o gwmpas yr un adeg a Marathon Llundain, a dywedodd Prif Weithredwr Run 4 Wales y gallai hynny fod yn fantais iddyn nhw.
Dywedodd Matt Newman: "Rydyn ni'n gwbod bod cannoedd o filoedd o redwyr yn methu a chael lle yn Marathon Llundain. Bydd llawer o'r rheiny yn chwilio am ddigwyddiad arall.
"Yn amlwg bydd rhai eisiau rhedeg ras Llundain, ac fe fyddan nhw'n gwneud cais i redeg honno y flwyddyn olynol, ond fe fydd 'na lawer yn chwilio am rasys eraill."
Prif noddwyr y digwyddiad fydd Associated British Ports, ac mae disgwyl i'r llwybr basio drwy llawer o dir y cwmni a Phont Gludo Casnewydd.
Mae'r llwybr wedi cael ei chynllunio gan y rhedwr Olympaidd Steve Brace, ac fe fydd yn cychwyn ac yn gorffen yn yr Ardal Gwella Busnes, sy'n cael ei ddatblygu yn y ddinas.
Dywedodd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Fel fyddech chi'n ei ddisgwyl o ddinas Gymreig, rydyn ni'n angerddol dros chwaraeon ac rydyn ni'n gyffrous iawn o fod yn cynnal Marathon Casnewydd Cymru ABP.
"Drwy ehangu ein rhaglen o ddigwyddiadau ein gobaith ydy codi proffil y ddinas, a denu mwy o ymwelwyr a buddsoddiad.
"Dwi'n edrych ymlaen at groesawu y rhedwyr gorau i Gasnewydd ac fe fydd llawer o'n rhedwyr lleol hefyd yn mwynhau'r cyfle i droedio strydoedd eu dinas."
'Pencampwriaeth Marathon Cymru'
Roedd y trefnwyr wedi cyhoeddi yn 2016 y byddan nhw'n cynnal marathon yng Nghaerdydd yn dilyn llwyddiant yr hanner marathon.
Ond yn ôl Mr Newman, roedd sawl rheswm da dros gynnal y marathon yng Nghasnewydd.
"Mae Hanner Marathon Caerdydd o safon byd-eang ac mae wedi ennill ei lle fel ras eiconig ym Mhrydain," meddai.
"Fydden ni ddim eisiau gwneud dim i beryglu hynny. Ond mae yna alw enfawr am rasys marathon ym Mhrydain."
"Mae pencampwriaeth Cymru yn cael ei chynnal yn ras Marathon Llundain - ond ry' ni'n teimlo y dylai fod marathon cenedlaethol yng Nghymru.
"Fe fydd hon nawr yn cael ei hystyried yn Bencampwriaeth Marathon Cymru."
Ychwanegodd bod y "ffaith bod y doll ar Bont Hafren yn diflannu hefyd yn mynd i ddenu pobl i Gasnewydd", a bod y cynllun "yn gwneud synnwyr o ran busnes hefyd".
Bydd llefydd ar gyfer y marathon ar gael o 5 Hydref ymlaen.