Ymchwiliad i farwolaeth Pearl Black yn parhau
- Cyhoeddwyd
Yn Llys y Crwner Aberdâr mae gwrandawiad cyn y cwest i farwolaeth plentyn blwydd oed wedi clywed bod ymchwiliad yr heddlu yn parhau.
Cafodd Pearl Black ei gwasgu i farwolaeth wedi i Range Rover gwag lithro, croesi'r ffordd a tharo wal gardd ym Merthyr Tudful fis Awst diwethaf.
Clywodd y gwrandawiad fore Mercher y byddai perchennog y car yn cael ei holi gan yr heddlu ac y bydd yr achos o bosib yn cael ei drosglwyddo i Wasanaeth Erlyn y Goron.
Mae gwrandawiad arall wedi cael ei drefnu ar gyfer 8 Rhagfyr.
Ar ôl y gwrandawiad dywedodd tad Pearl Black fod y teulu yn byw "o awr i awr yn hytrach nag o ddiwrnod i ddiwrnod".
Ychwanegodd Mr Black a ymddangosodd ar raglen The Voice: "Does na'm eiliad yn pasio heb i ni feddwl am ein merch fach.
"Fydd ein bywyd fyth yr un fath eto. Roedd hi'n rhan fawr o'n bywydau am y cyfnod byr a fuodd hi gyda ni. Rwy'n ei charu hi'n fawr bob dydd."
Clywodd y gwrandawiad fod ymchwiliadau'r heddlu yn parhau ac nad oedd perchennog y car, Andrew Williams, wedi'i gyfweld eto gan ei fod yn teithio'n helaeth yn ei swydd fel gyrrwr lori teithiau hir.
Dywedodd y crwner Andrew Berkeley wrth y teulu fod ymchwiliad yr heddlu yn parhau i fater a allai fod yn un troseddol.
Clywodd gwrandawiad cynharach fod brêc llaw wedi cael ei ddefnyddio wedi i'r cerbyd Range Rover gael ei adael.
Ond ar ôl hynny y tebyg oedd i'r cerbyd lithro, croesi'r ffordd a tharo wal gardd gyferbyn.
Cafodd brawd wyth mis Pearl hefyd ei anafu.
Roedd y plant wedi bod yn ymweld â'u taid a'u nain gyda'u tad rhyw hanner milltir o'u cartref.