Dymchwel tafarn enwog y Quarryman's Arms yn Llanllyfni
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwaith o ddymchwel un o dafarndai mwyaf adnabyddus ardal Dyffryn Nantlle wedi dechrau.
Ym mis Ebrill fe dderbyniodd Cyngor Gwynedd gais cynllunio i ddymchwel y Quarryman's Arms yn Llanllyfni, sydd wedi bod ar gau ers rhai blynyddoedd.
Cafodd y Quarry ei hanfarwoli mewn cân gan un o feibion enwocaf y pentref, Bryn Fôn, o'i ddyddiau gyda Sobin a'r Smaeliaid.
Roedd bwriad i adeiladu tai fforddiadwy ar y safle, ond mae'n debyg fod y cynlluniau hynny wedi dod i ben am y tro.
Mae'r safle wedi bod yn cael problemau gydag ymddygiad gwrth-gymdeithasol dros y blynyddoedd diwethaf ac mae sawl ymgais i ail-agor y dafarn wedi methu.
Dywedodd cynghorydd Llanllyfni, Craig ab Iago, ei fod yn gobeithio gwneud defnydd ymarferol o'r tir.
"'Dan ni'n despret am lefydd parcio yn Llan," meddai wrth Cymru Fyw. "Mae'r diffyg yn creu llawer o densiwn yn y pentre'.
"Fasa fo'n wych os fasen ni'n cael defnyddio'r tir fel maes parcio yn dymhorol."
Ychwanegodd ei fod yn ymchwilio i'r posibilrwydd o adeiladu canolfan gaffi a bar i'r gymuned a'r tîm pêl-droed lleol ar y safle.