Profi ceir di-yrrwr yn bosib yng Nghymru, medd Skates
- Cyhoeddwyd
Gallai ceir di-yrrwr gael eu profi ar ffyrdd Cymru, yn ôl Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.
Dywedodd Mr Skates ei fod yn "gynnar iawn" ond y gallai'r profion gael eu cynnal wrth i ffyrdd newydd gael eu hadeiladu, gyda'r bwriad o ddatblygu lonydd penodol i'r ceir yn y dyfodol.
Gobaith Mr Skates yw creu'r isadeiledd i arbrofi gyda'r dechnoleg yng Nghymru, ac yna gallu creu swyddi drwy ddatblygu'r cerbydau newydd.
Mae arbenigwr o Brifysgol Caerdydd wedi dweud y gallai datblygiad ceir di-yrrwr newid y ffordd rydyn ni'n defnyddio ac yn prynu cerbydau yn y dyfodol.
27,000 o swyddi
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynllun i geisio datblygu sector cerbydau di-yrrwr, gan honni y gallai'r farchnad yn y DU fod werth £52bn erbyn 2035.
Maen nhw'n honni hefyd y gall hyd at 27,000 o swyddi gael eu creu yn y sector erbyn hynny.
Dywedodd Mr Skates wrth BBC Cymru bod ymchwil a datblygiad i'r dechnoleg yn digwydd ar hyn o bryd.
"Os allwn ni gynnig yr isadeiledd, er enghraifft llwybrau i brofi'r cerbydau wrth iddyn nhw gael eu datblygu yna rydyn ni'n llawer mwy tebygol o'u cynnig ar y farchnad ein hunain yng Nghymru, neu gymryd rhan yn y broses o ddatblygu."
Sut all y dechnoleg newid ein byd?
Mae'r Athro Mark Barry o Brifysgol Caerdydd yn dweud y gallai effaith y cerbydau fod yn sylweddol.
"Dwi'n rhagweld ceir di-yrrwr yn cael eu rheoli mewn fflydoedd sy'n rhan o'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus... ar y cyd â rheilffyrdd, bysiau a threnau ysgafn.
"Y peth pwysig i ddeall yw cyd-destun; pan mae pobl yn siarad am geir dydyn nhw ddim yn sylwi bod 99% o geir y byd yn treulio 99% o'u hamser yn gwneud dim.
"Maen nhw'n defnyddio metalau prin, adnoddau naturiol, ynni i'w cynhyrchu, i eistedd yna yn llenwi ein strydoedd."
Dechreuodd William Sachiti gwmni sy'n datblygu ceir di-yrrwr yn Aberystwyth, sydd â phrototeip sy'n cludo pecynnau yn hytrach na phobl.
Dywedodd bod llawer o'r profion ar gyfer cerbydau di-yrrwr yn digwydd yn Llundain, gyda disgwyl mwy o brofion yn Milton Keynes a Coventry.
Ychwanegodd y byddai profion yng Nghymru yn hwb i'r diwydiant: "Nid yw Greenwich yn cynrychioli'r DU. Nid yw'n cynrychioli Cymru, nid yw'n cynrychioli'r Gymru wledig, na'r Alban.
"A byddai'n braf i ni fel cynhyrchwyr yn Aberystwyth i beidio gorfod gadael Cymru i fynd yr holl ffordd i Lundain, cynnal prawf, a'r holl ffordd yn ôl."