Y Ceidwadwyr yn addo teithiau bws am ddim i bobl ifanc
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi addo teithiau bws am ddim i bobl ifanc 16-24 oed yng Nghymru, ac maen nhw'n annog Llywodraeth Cymru i wneud yr un peth.
Byddai'r Cerdyn Gwyrdd - fyddai'n costio tua £25m y flwyddyn yn ôl y Ceidwadwyr - hefyd yn gostwng prisiau trenau o draean.
Dywedodd llefarydd y blaid ar addysg, Darren Millar bod pobl ifanc yn gorfod delio â'r yswiriant car drytaf ond y cyflogau lleiaf.
Mae Llywodraeth Cymru wedi disgrifio'r awgrym fel "economeg ffantasi", gan ychwanegu y bydd yn lansio ymgynghoriad ar gynllun newydd yn fuan.
Mae cynllun presennol Fy Ngherdyn Teithio Llywodraeth Cymru yn rhoi gostyngiad o draean oddi ar ffioedd bysiau i bobl ifanc 16-18 oed.
'Costau teithio'n rhwystr'
Dywedodd Mr Millar y byddai eu "cynnig cyffrous i bobl ifanc" hefyd yn diogelu'r amgylchedd a helpu gwasanaethau bws lleol rhag cael eu diddymu.
Ychwanegodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr economi, Russell George, y gallai costau teithio fod yn "rhwystr enfawr" i gyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.
"Rydyn ni wedi ymrwymo i adeiladu economi cryfach a chymdeithas decach, ac rydyn ni'n credu y dylai pobl ifanc gael budd o'r un consesiynau teithio sy'n cael eu cynnig i bobl dros 60 yng Nghymru," meddai.
Dywedodd llefarydd o Lywodraeth Cymru: "Mae meddwl y gallwch chi ddarparu teithiau bws am ddim a thraean oddi ar ffioedd rheilffyrdd i 350,000 o bobl am £25m yn economeg ffantasi."
Ychwanegodd y byddai Llywodraeth Cymru'n lansio ymgynghoriad yr wythnos nesaf ar gynlluniau i lansio rhaglen fyddai'n cymryd lle Fy Ngherdyn Teithio pan fo'n dod i ben ym mis Ebrill 2018.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2017