Y Gymraeg yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Pa mor hen yw hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd? Mae hi yno erioed meddai'r academydd Dr Dylan Foster Evans.
Gyda galw am ragor o ysgolion Cymraeg yn y brifddinas mae tuedd i feddwl mai iaith ddŵad ydy'r Gymraeg yng Nghaerdydd ond "nonsens" yw'r syniad hwnnw meddai Dr Evans.
Os edrychwch chi'n ofalus mae olion ym mhobman o'r gymuned amaethyddol Gymraeg oedd yno ymhell cyn y brifddinas gosmopolitaidd bresennol.
Cafodd miloedd o Gymry Cymraeg eu denu i Gaerdydd hefyd wrth i'r porthladd dyfu yn ystod Oes Fictoria.
"Does 'na erioed unrhyw doriad wedi bod yn hanes yr iaith Gymraeg yng Nghaerdydd," meddai Dr Evans, pennaeth y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd wrth BBC Cymru Fyw.
"Mae 'na ardaloedd sydd bellach yn rhan o'r ddinas a oedd tan yn bur ddiweddar â mwyafrif Cymraeg yn byw yno: ardaloedd gwledig fel Llys-faen ac ardaloedd mwy diwydiannol fel Gwaelod-y-Garth a Phen-tyrch ar droad yr 20fed ganrif.
"Roedd rhai o'r llefydd yma'n fwy Cymraeg na bron unrhyw le yng Nghymru rŵan."
Yn ôl ffigyrau Cyfrifiad 2011 mae 36,735 o bobl Caerdydd yn siarad Cymraeg heddiw, sef 11.1% o boblogaeth y sir.
Ond dywed Dr Foster Evans fod gwaith ymchwil gan y cyn aelod Cynulliad, Owen John Thomas, yn awgrymu y byddai'r rhan fwyaf o bobl Caerdydd yn siarad Cymraeg ar ddechrau'r 19eg ganrif pan oedd hi'n dref fechan.
Ffermydd y ddinas
Yn Oes Fictoria roedd cymuned o ffermwyr Cymraeg eu hiaith yn byw yn yr ardaloedd sydd bellach wedi eu llyncu gan y ddinas.
"Mae hen fferm y Grange yn dal yna yn Grangetown - roedd y teulu yna'n siarad Cymraeg tan ddatblygwyd yr ardal yn oes Fictoria," meddai Dr Evans.
"Roedd yna fferm Pen-y-waun ar gyrion y Waun Ddyfal ac mae Pen-y-waun Road yn atgof o hynny.
"Roedd y teulu yna'n siarad Cymraeg a hefyd y teulu oedd yn byw ar fferm y Dderwen Deg yn y Rhath. Mae Fairoak Road yn dal i fod yn yr ardal honno.
"Roedd 'na hefyd hen deuluoedd yn ardaloedd Treganna, Pwll-coch a Threlái - Ely Farm er enghraifft - yn amlwg iawn yn y gymdeithas Gymraeg. "
Nôl llefrith a wyau
Mae gan Mari Emlyn gof plentyn o fynd i fferm Derwen Deg i nôl llaeth a wyau yn y 1960au.
"Roeddan ni'n byw ar Lady Mary Road yng Nghyncoed ac roedd y tŷ ffarm ar waelod y stryd ac mi fyddai mam yn hel fy chwaer a fi yn y bore i nôl llefrith a wyau gan y ffarmwr," meddai.
"Mae gen i deimlad mai Cymraeg roedden ni'n siarad efo fo - yn un peth fysa gen i ddim Saesneg yn bedair oed a fysa gan fy chwaer oedd yn saith neu wyth ddim lot o Saesneg chwaith.
"Ryw feddwl ydw i ella bod mam yn ein hel ni lawr yno ar mwyn i'r ffarmwr gael ymarfer ychydig o Gymraeg efo ni.
"Mae'n anodd meddwl fel rywun sydd wedi ei magu yn y brifddinas mod i'n cerdded i lawr y lôn i gael wyau a llaeth!"
Cafodd y fferm ei chwalu ddiwedd y 1960au i wneud lle i ffordd newydd yr A48 (Eastern Avenue) o Gaerdydd i Gasnewydd.
Mae plac yn nodi lle roedd y dderwen yn dal yno heddiw.
'Siaradwraig olaf'
Cafodd yr aelod seneddol Alfred Thomas, a ddaeth yn Farwn Pontypridd, ei fagu ar aelwyd Gymraeg ar fferm Llwyn y Grant yn ardal Llanedern.
Yn yr un cyfnod roedd teulu arall o Gymry Cymraeg yn byw ar fferm y Wedal Uchaf, lle mae mynwent Cathays heddiw.
Ann Davies oedd yr olaf o'r teulu i fyw yma yn y 19eg ganrif. Erbyn diwedd ei hoes roedd awdurdodau'r dref yn llygadu'r tir.
"Erbyn 1897 y bwriad oedd defnyddio'r tir er mwyn ehangu'r fynwent," meddai Dr Foster Evans.
"Ond roedd rhaid aros i Ann Davies farw cyn meddiannu'r lle. Hi oedd y siaradwraig Gymraeg olaf ar y tir hwnnw ac wedi iddi farw rhoddwyd y tir i'r fynwent.
"Mae Wedal Road yn dal i fod wrth ymyl heddiw."
Ond wrth i'r rheilffyrdd a'r dociau ddatblygu fe drodd y dref yn ddinas a'r Gymraeg yn iaith leiafrifol.
'Pobl ddŵad' oedd trwch y siaradwyr erbyn hynny meddai Dr Evans, ond dyna natur dinas.
"Roedd y mwyafrif wedi symud yno ar ryw adeg, dyna sut y tyfodd hi.
"Dydi tynnu rhyw linell, a dweud eich bod chi'n fwy o 'bobl ddŵad' os ydych chi'n Gymry Cymraeg ddim yn gwneud synnwyr.
"Dyna yw dinas fel Caerdydd a dyna yw porthladd, mae bron pawb yma wedi dod o rywle arall yn y pen draw."
Cymraeg Tiger Bay
Un o ardaloedd mwyaf Cymraeg Caerdydd yn Oes Fictoria oedd Tiger Bay, meddai Dylan Foster Evans, lle roedd tri chapel ac eglwys Gymraeg ar gyfer y llongwyr a'r morwyr Cymraeg.
"Roedd rhai o berchnogion y llongau yn Gymry Cymraeg, Cardis a phobl o Sir Benfro ac o'r gogledd.
"Felly roedd tai lojins ar gyfer Cymry Cymraeg a chapel Cymraeg ar Loudoun Square, calon yr hen Diger Bay, lle roedd teulu Ivor Novello yn aelodau.
"Mae na ddisgrifiadau o gerdded i lawr y stryd yna yn clywed yr holl ieithoedd gwahanol ac emynau Cymraeg yn eu canol.
"Mae 'na sôn am Arabiaid a Sbaenwyr rhugl eu Cymraeg yn y dociau ac roedd yr ardal, fel gweddill Caerdydd, yn gefnogol i ymgyrch i ddysgu Cymraeg yn yr ysgolion ar ddiwedd Oes Fictoria."
Daeth Sblot hefyd yn ardal nodedig am ei Chymraeg wedi i waith dur Dowlais symud yno a denu gweithwyr dur Cymraeg eu hiaith o'r cymoedd.
A chanrifoedd cyn hynny, roedd rhai o noddwyr y beirdd yn byw mewn ardaloedd fel Sblot a Threlái.
"Mae 'na draddodiad barddol yn yr ardaloedd yna yn mynd nôl yn sicr i gyfnod Elisabeth y Gyntaf ac mae cyfeiriadau at Sblot a Threlái i'w cael yn y cywyddau," meddai Dr Foster Evans.
Methu â siarad Saesneg
Mae capeli'r brifddinas wedi bod yn bwysig iawn i gadw'r gymuned Gymraeg at ei gilydd ond mae'r iaith wedi bod yno ym mhob haen o gymdeithas meddai Dr Evans.
"Mae na gŵyn yn un o'r papurau newydd ar ddechrau'r 20fed ganrif fod pobl ar ddiwrnod gemau rhyngwladol yn clywed y Gymraeg yn cael ei defnyddio i bennu prisiau gyda'r puteiniaid.
"Roedd o leiaf un siaradwraig Cymraeg yn rhedeg puteindy yng nghanol Caerdydd yn Oes Fictoria heb allu siarad fawr o Saesneg.
"Roedd Elizabeth George yn rhedeg tafarn Dinas Arms, oedd hefyd yn buteindy, a hynny ar ei phen ei hun. Mewn achos llys yng Nghaerdydd yn 1858 bu'n rhaid cael cyfieithydd iddi."
"Mae 'na ddigonedd o ddeunydd difyr sy'n mynd yn groes i'r canfyddiad, hyd yn oed ymhlith rhai Cymry Cymraeg, nad ydyn nhw cweit yn perthyn," meddai Dr Foster Evans.
"Y syniad hwnnw fod yr holl siaradwyr Cymraeg wedi symud i Gaerdydd ers y pumdegau, a bod neb cyn hynny - sy'n nonsens."