Lluniau: Dydd Mawrth yn yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Daeth yr haul i dywynnu ar y Maes unwaith eto ar ddiwrnod arall o gystadlu, cymdeithasu a bob math o ddigwyddiadau yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Dyma rai o luniau'r dydd:

Ffasiwn newydd i'r Orsedd? Yr hogyn lleol Stifyn Parri, sy'n dod o Rosllannerchrugog, yn ei Wisg Binc

Elidyr Glyn, o'r band Bwncath, ar Lwyfan y Maes. Gyda'r grŵp mor boblogaidd mae'n anodd cael lleoliad da i'w gwylio nhw ar adegau...

... ond fe gafodd ambell i Eisteddfodwr ddewis eu man perffaith ar fore Mawrth y Steddfod. Roedd y band yn cael soundcheck ar gyfer eu perfformiad nos Sadwrn, fydd yn cloi Llwyfan y Maes

Rhai o'r criw pwysicaf sy'n rhan o dîm Llwyfan y Maes - ac unrhyw gig neu gyngerdd - y criw technegol sy'n sicrhau bod safon y sain ar ei orau

Un arall gafodd olygfa dda oedd Ann Jones, o Bwllheli. Mae hi'n eistedd mewn sedd yn rhes flaen y Pafiliwn bob dydd, drwy'r wythnos, ymhob Eisteddfod ers degawdau. Dyma hi - yn ei sedd arferol, rhif 30. Efo hi heddiw - yn sedd 31 - oedd Ken Hughes

Morgan o Gricieth yn ceisio dal swigen

Criw Camu 'mlaen ar y Maes - nifer yn y Brifwyl am y tro cyntaf erioed. Mae'r prosiect, gan Goleg Cambria, wedi bod yn cynnig gwersi Cymraeg i bobl ifanc yn yr ardal cyn i'r Eisteddfod ddod i'w milltir sgwâr

Theatr y Stryd yn denu sylw'r plant gyda Babs a Stella...

... a gyda Robots

Merched Mela ddaeth yn gyntaf yn yr ensemble lleisiol

Un cyfle olaf i fynd drwy'r ddawns i Malen ac Enfys, o Lanuwchllyn, cyn camu ar y llwyfan

Roedd Phoebe, o'r Drenewydd, a Caitlin, o Lanidloes, hefyd yn cystadlu

Twm o Sir Benfro yn ei Brifwyl gyntaf cyn iddo fo a gweddill ei sir enedigol estyn croeso i Steddfod 2026

Gwers gyntaf erioed ar y delyn i Kitty Bronwen Durham, sydd o ganolbarth Lloegr ond ar fin dechrau gradd ym Mhrifysgol Abertawe ac yn bwriadu dysgu Cymraeg

Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen Peredur Glyn gyda'i fab Brython, a'i reini Eleri a Gareth
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon eraill o'r Eisteddfod
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl