Ethol Nic Parry yn Llywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol

Nic ParryFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nic Parry yn adnabyddus am ei waith fel sylwebydd pêl-droed

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi bod Nic Parry wedi cael ei ethol yn Llywydd y Llys a chadeirydd Bwrdd Rheoli'r sefydliad.

Bydd y cyn-farnwr a'r sylwebydd pêl-droed yn olynu Ashok Ahir, a fu yn y swydd ers 2019.

Cafodd ei gadarnhau yng nghyfarfod y Llys ddydd Iau yn dilyn proses recriwtio agored.

Dywedodd Mr Parry y byddai'n brwydro yn erbyn unrhyw awgrym o lacio'r rheol Gymraeg, ac yn ymroi i weithio mewn ffordd ymarferol sy'n cynnwys Eisteddfodwyr.

Mae hefyd wedi addo sicrhau tryloywder ym mhenderfyniadau'r Llys a'r Bwrdd Rheoli.

Mae Nic Parry yn fwyaf adnabyddus fel sylwebydd pêl-droed ac mae'n wyneb a llais cyfarwydd i wylwyr Sgorio ar S4C.

Ond yn y byd cyfreithiol yr oedd ei waith bob dydd.

Cafodd ei dderbyn fel cyfreithiwr yn 1982, a threulio cyfnod fel cofiadur ar ddechrau'r ganrif cyn cael ei benodi'n farnwr cylchdaith yn 2010.

Roedd hefyd yn gyfarwyddwr ar bwyllgor hyfforddiant Cymru yn y Coleg Barnwrol rhwng 2013 a 2017.

Daeth cadarnhad gan y farnwriaeth ym mis Ebrill ei fod yn ymddeol fel barnwr cylchdaith wedi 15 mlynedd.

Yn wreiddiol o Sir y Fflint, mae'n byw yn Llanbedr Dyffryn Clwyd.

'Rhaid bod yn ffyddlon i'r rheol Gymraeg'

Wedi iddo gael ei ethol, dywedodd Mr Parry: "Does gen i ddim amheuaeth o gwbl bod rhaid bod yn ffyddlon i'r rheol Gymraeg.

"Mae'n hollol bosib byw am wythnos yn defnyddio'r Gymraeg heb golli allan o gwbl, gan fod y ddarpariaeth ar gyfer y di-Gymraeg yn well nag erioed."

Ychwanegodd ei fod yn awyddus i roi ei enw ymlaen gan ei fod yn ystyried y swydd yn un arbennig o bwysig wrth ofalu am un o'n prif sefydliadau.

"Mae'n swydd lle mae angen symud gyda'r oes, ac ro'n i'n meddwl fod gen i'r sgiliau sydd eu hangen yn yr unfed ganrif ar hugain i wneud y gwaith.

"Mae'n gymysgedd o nerfusrwydd a balchder hefyd, ac rwy'n edrych ymlaen at ymroi iddi a gwneud yn siŵr fy mod yn ei chyflawni mewn ffordd ymarferol fydd, gobeithio, yn cynnwys Eisteddfodwyr.

"Dwi wedi bod yn farnwr ers dros chwarter canrif – am 15 mlynedd yn llawn amser, a 10 mlynedd yn rhan amser cyn hynny. Pan wnes i ymddeol, cefais y pleser o eistedd a chlywed pobl yn dweud pethau neis amdana i, gyda llawer yn dweud fod gen i arddull lle mae pobl yn meddwl fy mod i ar eu hochr nhw.

"Dwi yma i wrando arnyn nhw – ond pan mae angen rhoi'r droed i lawr, rydw i'n gallu gwneud hynny hefyd. Dwi'n meddwl mai fel yna y bydda i'n arwain."

'Ewyllys da'r llywodraeth yn allweddol'

Ychwanegodd Mr Parry ei fod yn credu bod cydweithio gyda Llywodraeth Cymru'n rhan bwysig o'r rôl.

"Mae'r esgid yn gwasgu'n ariannol, ac mae ewyllys da'r llywodraeth yn allweddol. Mae hynny'n rhywbeth sydd angen ei gynnal a'i feithrin ymhellach.

"Ar hyn o bryd, rwy'n falch o ddweud bod swyddogion yn sicrhau bod y berthynas adeiladol honno'n parhau.

"Ond dim ond os yw'r Eisteddfod yn ticio'r bocsys mae'r llywodraeth angen iddi eu ticio y bydd hynny'n digwydd – ac mae hynny'n golygu cynnwys mwy o bobl, a'i gwneud yn ŵyl sydd ddim yn unig i'r Cymry Cymraeg traddodiadol.

"Mae hynny'n cael ei danlinellu mewn ardaloedd fel y dwyrain, ar wahân i'r gorllewin."

"Mater arall sydd angen ei bwysleisio yw sicrhau bod busnesau'n gweld budd o fod yn rhan o'r ŵyl hon.

"Fedra i ddim deall pam na fyddai busnesau eisiau gweld eu proffil yn cael ei godi mewn digwyddiad lle mae 170,000 o bobl yn dod mewn wyth diwrnod. Felly, rwy'n meddwl bod hynny'n bwysig."

Eisteddfod WrecsamFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nic Parry am weld yr ardal leol yn gweld gwahaniaeth ar ôl i'r Brifwyl adael yn ogystal

Mae Mr Parry hefyd yn awyddus i weld gwaddol yr Eisteddfod yn cael ei ddatblygu o'r cychwyn cyntaf wrth baratoi ar gyfer y Brifwyl.

Mae am weld yr ardal leol yn gweld gwahaniaeth ar ôl i'r Brifwyl fynd.

"Mae 'na gymdeithasau dal i fynd, mae 'na gorau dal i fynd, ac ni fydden nhw yno oni bai am yr Eisteddfod. Dwi'n cytuno â Mark Drakeford – mae angen meddwl am hynny o'r cychwyn.

"Dim gadael a gobeithio y bydd gwaddol ar ei hôl hi, ond penderfynu ymlaen llaw sut y bydd yr Eisteddfod yn elwa'r fro. Ac os ydych chi'n esbonio hynny i'r fro, mae'n fwy o gymhelliant i fynd ati."

Poeni am roi'r clogyn ar y buddugwyr

Ond wrth gymryd yr awenau gan Ashok Ahir, cyfaddefodd fod un elfen o'r gwaith yn peri pryder iddo.

"Dwi'n dal i boeni sut dwi'n mynd i roi'r clogyn ar y buddugwyr – achos fedra i ddim rhoi fy 'dressing gown' fy hun.

"Ro'n i'n gwylio Ashok a Llinos [Roberts - cadeirydd y Pwyllgor Gwaith] yr wythnos hon yn gwisgo'r buddugwyr, ac roeddwn i'n poeni y byddwn i wedi cau'r botwm anghywir."