Lluniau: Dydd Mercher yn yr Eisteddfod

  • Cyhoeddwyd

Y diwrnod brafiaf o'r wythnos hyd yma ar y Maes, a hynny ar ddiwrnod cyhoeddi Dysgwr y Flwyddyn a'r Prif Lenor Rhyddiaith.

Dyma rai o luniau'r dydd:

Pedwar person efo het cowboi
Disgrifiad o’r llun,

Low-fi Jones a Kitsch n Sync gyda'r hetiau perffaith ar gyfer yr haul

Dyn yn edrych ar waith celf
Disgrifiad o’r llun,

Digon i edrych arno yn Y Lle Celf

Dyn yn edrych ar waith celf
Disgrifiad o’r llun,

Artist yn dehongli artist - darlun o'r pianydd Llŷr Williams, sy'n dod o Rosllannerchrugog

Bachgen yn edrych drwy gylch
Disgrifiad o’r llun,

Caio, o Gaernarfon, gydag un o'i hoff ddarnau celf

Rhes o bobl yn ciwio
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn rhaid ciwio am gyfnod hir i fynd i mewn i'r Tŷ Gwerin i wylio Pedair, y grŵp wnaeth ffurfio yn ystod y cyfnod clo ac enillwyr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn 2023

Pedair
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y rhai lwyddodd i fynd i mewn wledd o gerddoriaaeth gan Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym, Gwenan Gibbard a Siân James

Cian CiaranFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Cian Ciarán ar y Maes i gyflwyno gosodiad chwe awr i gofio 80 mlynedd ers bom Hiroshima

Pobl yn gorwedd ar gadair yn gwrando ar y gosodiad celf
Disgrifiad o’r llun,

Gwrando ar y gosodiad i gofio Hiroshima

Pedwar o bobl yn mwynhau'r Hufen Ia
Disgrifiad o’r llun,

Yr haul yn esgus perffaith i Eleanor, Gwen Mairi, Roger ac Ann gael hufen iâ

Ci yn edrych ar berson yn bwyta hufen ia
Disgrifiad o’r llun,

A rhaid cofio fod pawb yn haeddu gwledd

Tair dynes gyda hetiau ieir
Disgrifiad o’r llun,

Mari William, Jo Patel a Nat Baguley o Ymddiriedolaeth Lles Ieir Prydain, sy'n ceisio ailgartrefu ieir sy'n rhy hen i ffermydd ieir mawr, pan fydd nhw'n 18 mis oed

Pedwar yn eistedd mewn
Disgrifiad o’r llun,

Janet a Sioned, o Ddinbych, a Peter a Meirwen o bentref Minffordd

Lucy Cowley gyda'i gwobr Dysgwr y Flwyddyn
Disgrifiad o’r llun,

Lucy Cowley, o Langollen, ar y llwyfan wedi iddi ennill gwobr Dysgwr y Flwyddyn

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.