Greta Siôn yn ennill Medal y Dramodydd yn Eisteddfod Wrecsam

Enillodd Greta Siôn gyda'r ffugenw Caer Enlli am ei drama 'Presennol'
- Cyhoeddwyd
Mae Greta Siôn wedi ennill Medal y Dramodydd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Bu Greta, o Gaerdydd, yn ddisgybl yn Ysgol Plasmawr cyn mynd ymlaen i astudio Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Lerpwl.
'Presennol' yw'r ddrama lwyfan gyflawn gyntaf iddi ei hysgrifennu.
Dywedodd un o'r beirniaid, Daniel Lloyd, fod 'Presennol' yn "fonolog gonfensiynol sy'n hollol hyderus yn ei ffurf, yn teimlo'n gyflawn fel drama ac yn llwyddo i swyno".
Dywedodd Greta Siôn wrth BBC Cymru Fyw fod ennill y wobr yn brofiad "hollol swreal"
Fel yn achos Gwobr Goffa Daniel Owen, seremoni fer oedd hon heb yr Archdderwydd na'r Orsedd yn cymryd rhan.
Ond roedd ychydig fwy o sylw na'r arfer i'r gystadleuaeth eleni ar ôl i'r fedal gael ei hatal yn ddirybudd llynedd.
Roedd y dasg yn wahanol eleni ond roedd hynny wedi cael ei benderfynu cyn yr hyn a ddigwyddodd yn 2024.
Pwy yw'r enillydd?
Tra ym Mhrifysgol Lerpwl, bu Greta Siôn yn llywydd ar y gymdeithas ddrama, a bu'n rhan o sawl cynhyrchiad, gan gynnwys criw sgetsys comedi a berfformiai'n flynyddol yng Ngŵyl Ymylol Caeredin.
Ar ôl graddio, aeth ymlaen i weithio fel rhedwr ar y gyfres ddrama, Rownd a Rownd, am ddwy flynedd, lle cafodd y cyfle i ysgrifennu'r gyfres ddigidol, Copsan, fel rhan o gynllun mentora.
Yn 2024, fe dderbyniodd Greta radd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Rhydychen.
Erbyn hyn, mae'n ysgrifennu i gyfresi sebon Pobol y Cwm a Rownd a Rownd fel awdur llawrydd.

Roedd ei nain a'i thaid yn aml yn mynd â Greta i wylio dramâu yn Theatr Clwyd pan fyddai'n aros gyda nhw yn Rhuthun
Roedd yna 20 cais, sy'n fwy na'r arfer, ac yn dystiolaeth bod newid i'r fformat yn gweithio, yn ôl yr Eisteddfod.
Roedd hi'n ofynnol i ddramodwyr gyflwyno braslun o hyd at 2,500 o eiriau sy'n cynnwys amlinelliad stori - dechrau, canol, diwedd - lleoliad ac amser, proffil cymeriadau, arddull y darn yn ogystal ag enghraifft o dair golygfa wedi eu deialogi, neu ddrafft o ddrama gyflawn o hyd at 30-45 munud.
Mae cwmnïau a chynhyrchwyr theatr yng Nghymru wedi dod ynghyd i greu consortiwm fel rhan o bartneriaeth gyda'r Eisteddfod Genedlaethol i gynnig pecyn o gyfleoedd i enillydd y fedal.
Aelodau'r consortiwm yw Frân Wen, Theatr Bara Caws, Theatr Clwyd, Theatr Cymru, Theatr Sherman, Theatr y Torch, Cwmni Theatr Arad Goch ynghyd â'r Eisteddfod.

Roedd y panel o feirniaid eleni yn cynrychioli aelodau'r consortiwm ac roedd nifer ohonyn nhw ar lwyfan y Pafiliwn
Cai Llewelyn Evans o Bontarddulais a gipiodd y fedal hon ddiwethaf, a hynny yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023.
Roedd y panel o feirniaid eleni yn cynrychioli aelodau'r consortiwm sef Betsan Llwyd, Daniel Lloyd, Ffion Wyn Bowen, Gethin Evans, Lowri Morgan a Steffan Donnelly.
Cafodd Mared Jarman a Melanie Owen eu penodi i'r panel beirniaid fel ymarferwyr llawrydd, a bu Mari Emlyn a Rhian Blythe mewn un sesiwn drafod fel dirprwyon ar ran eu sefydliadau.
Mae'r buddugol yn ennill y fedal, er cof am Urien ac Eiryth Wiliam yn rhoddedig gan eu plant Hywel, Sioned a Steffan a £3,000.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2024
- Cyhoeddwyd13 Awst 2024
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl