Plismyn sy'n defnyddio'r Gymraeg yn 'niwsans'

  • Cyhoeddwyd
HeddluFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae swyddogion heddlu sydd yn mynnu defnyddio'r Gymraeg yn cael eu gweld fel "niwsans" gan rai o fewn y llu yn y gogledd medd un sarjant.

Yn ôl Trystan Bevan, sy'n gynrychiolydd Cymraeg gyda Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru, dyw swyddogion sydd yn, "dymuno dilyn prosesau drwy eu mamiaith wrth ymgeisio am ddyrchafiad," ddim yn cael digon o gefnogaeth.

Er ei fod yn dweud bod y Prif Gwnstabl a Chomisiynydd y llu yn gefnogol iawn i'r iaith mae'n dweud ei fod yn gresynu, "fod yna ambell i unigolyn o fewn y sefydliad sy'n gweld yr iaith a'r unigolion sy'n dymuno gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg fel rhai sy'n peri problemau ac yn niwsans".

Doedd Heddlu'r Gogledd ddim am wneud sylw ynglŷn â'i sylwadau.

'Tor calon'

Mae Trystan Bevan wedi ysgrifennu am y ffordd mae'n teimlo yng nghylch lythyr mis Medi , dolen allanolFfederasiwn Heddlu Gogledd Cymru, Your Voice.

Dywedodd ei fod wedi rhoi tystiolaeth i fframwaith dyrchafiad cenedlaethol ac wedi gofyn i gael cyflwyno'r dystiolaeth yn Gymraeg. Ond cafodd wybod nad oedd yna ohebiaeth ar gael yn Gymraeg.

"Fe'm hargyhoeddwyd - 'English is the chosen language of the organisation," meddai.

Mae'n dweud ei fod yn deall bod y dogfennau erbyn hyn wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg a'i fod yn mynd i allu gorffen y gwaith yn Gymraeg.

Dim sylw

Dywedodd hefyd: "Mae'n destun sy'n peri tor calon imi fod yna weithwyr o fewn y sefydliad nad ydynt yn ymwybodol o hawliau'r Cymry nac yn wir y cyfrifoldeb sy'n eu hwynebu fel gweithwyr o fewn sefydliad sydd mor flaengar fel corff proffesiynol er mwyn diwallu anghenion y Cymry Cymraeg."

Yn y cylchlythyr dywedodd hefyd ei fod wedi siarad gyda sawl swyddog arall sydd wedi cael profiadau tebyg ond eu bod ddim eisiau cael eu gweld fel pobl sydd yn achosi twrw.

"Rwy'n gwerthfawrogi ac yn deall eu safbwynt gan nad ydy rhywun am gorddi'r dyfroedd yn enwedig wrth ymgeisio am ddyrchafiad!," meddai.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gwrthod rhoi sylw ynglŷn â sylwadau'r Sarjant Bevan.