Defnydd heddlu o Taser ar ddyn yn Llandudno yn 'rhesymol'
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad gan Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) wedi dyfarnu bod y defnydd o wn Taser yn erbyn dyn wnaeth ddioddef anafiadau difrifol i'w ben yn Llandudno, yn "rhesymol ac yn gymersur" dan yr amgylchiadau.
Cafodd swyddogion Heddlu Gogledd Cymru eu galw i ardal Ffordd y Bryniau yn Llandudno ar 27 Gorffennaf 2016, wedi adroddiadau bod gan ddyn gyllell yn ei feddiant.
Fe wnaeth yr heddlu ddefnyddio gwn Taser ar y dyn 24 oed, ac wrth wneud fe wnaeth y dyn ddisgyn a chael anaf i'w ben.
Cafodd ei drin yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor ond fe wnaeth ei gyflwr waethygu dros nos ac fe gafodd ei gludo i'r ysbyty yn Stoke.
Caniatâd
Roedd yr IPCC yn ystyried os oedd y grym a ddefnyddiwyd gan swyddogion yr heddlu yn rhesymol ac os oedd caniatâd wedi'i roi i ddefnyddio gwn Taser.
Fe wnaeth yr ymchwiliad hefyd ystyried os oedd swyddogion wedi dilyn y canllawiau cenedlaethol a rhai'r llu ar ddefnyddio'r arf.
Derbyniodd yr ymchwiliad dystiolaeth gan dystion i'r digwyddiad gan gynnwys edrych ar gamerâu oedd ar wisg yr heddlu.
Yn ôl yr ymchwiliad roedd y caniatâd a'r defnydd o'r Taser yn cydfynd â'r canllawiau.
Disgyblu
Dywedodd Rheolwr Gweithredol yr IPCC, Melanie Palmer: "Fe wnaeth ymchwiliad gan yr IPCC ddyfarnu nad oedd y swyddogion dan sylw wedi ymddwyn mewn unrhyw ffordd fyddai'n cyfiawnhau camau disgyblu yn eu herbyn.
"Yn yr achos yma, roedd y swyddogion mewn man cyfyng, yn wynebu unigolyn oedd wedi'i weld ar y stryd gyda chyllell.
"Mae'r dystiolaeth yn dangos nad oedd y swyddog wnaeth ddefnyddio Taser wedi defnyddio grym yr oedd yn ystyried yn angenrheidiol ar gyfer gwarchod lles ei hun a'i gyd weithwyr."
Mae'r dyn wnaeth ddioddef anafiadau i'w ben bellach wedi gwella'n sylweddol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2016