Byddai uno'r Scarlets a'r Gweilch 'ddim y peth hawsaf' - cadeirydd URC

Mae angen gwella a "chynyddu crynodiad ein talent mewn llai o dimau", medd Richard Collier-Keywood
- Cyhoeddwyd
Mae cadeirydd Undeb Rygbi Cymru [URC] wedi cydnabod na fyddai hi'n hawdd uno rhanbarthau'r Scarlets a'r Gweilch.
Daeth sylwadau Richard Collier-Keywood er gwaethaf y ffaith bod yr undeb wedi cyhoeddi mai dim ond un tîm fydd wedi'i leoli yng ngorllewin Cymru yn 2027.
Dywedodd mai un posibilrwydd fyddai uno'r ddau glwb i ffurfio un tîm, ond pwysodd bod llawer o hanes a "llawer o gystadleuaeth, felly alla' i ddim dychmygu mai dyna'r peth hawsaf yn y byd i ddigwydd".
Yn y cyfamser, mae clybiau ar hyd a lled Cymru yn teimlo'n rhwystredig gyda newyddion URC ac yn eu plith mae Castell-nedd - lle cafodd URC ei sefydlu ym 1881.
"Y Scarlets yw ein nemesis," meddai Brian Hopkins, sydd wedi cael tocyn tymor am y rhan fwyaf o'i fywyd.
"Ydych chi'n meddwl y gallwn i chwifio baner y Scarlets neu weiddi dros Lanelli?"
Hefyd, ddydd Sadwrn, fe wnaeth rhai o gefnogwyr y Dreigiau drefnu gorymdaith o ganol y ddinas i Rodney Parade, i brotestio yn erbyn cynlluniau URC.

"Ydych chi'n meddwl y gallwn i chwifio baner y Scarlets neu weiddi dros Lanelli?" Cwestiynodd Brian Hopkins, cefnogwr Castell-nedd
Yn siarad ar Radio Wales fore Sadwrn, dywedodd Richard Collier-Keywood fod angen gwella a "chynyddu crynodiad ein talent mewn llai o dimau".
"Dyna gyfrinach llwyddiant wrth symud ymlaen," meddai.
Esboniodd fod URC wedi cynnal ymgynghoriad a bod dros 7,000 o bobl wedi ateb holiadur ganddyn nhw.
"Felly, fe wnaethon ni wrando ac fe wnaethon ni ddysgu."
Dywedodd Mr Collier-Keywood eu bod wedi mynd am yr opsiwn sy'n "debygol o fod yr un mwyaf cynaliadwy yn ariannol i ni yn y tymor hir".
Ychwanegodd mai eu nod ydy "gwella ansawdd" rygbi clybiau yng Nghymru a'r timau cenedlaethol.
"Mae teyrngarwch cefnogwyr yn newid dros gyfnod o amser," meddai, gan gyfeirio at 2003 - pan newidiodd y drefn o naw rhanbarth i lawr i bump.
URC i dorri nifer y rhanbarthau rygbi o bedwar i dri erbyn 2027
- Cyhoeddwyd24 Hydref
Mae cae chwarae enwog Clwb Castell-nedd, y Gnoll, yn gartref i atgofion melys iawn dros y 150 mlynedd diwethaf, gyda Seland Newydd, Awstralia a'r Springboks - i gyd wedi chwarae yno.
Ond, wrth i'r oes broffesiynol ddatblygu yng Nghymru, gofynnwyd i gefnogwyr Castell-nedd i deithio ymhellach i ffwrdd a newid eu teyrngarwch.
Gallai'r posibilrwydd o orfod teithio ymhellach i'r Gorllewin, efallai hyd yn oed at y Scarlets - i wylio rygbi proffesiynol, brofi'n gam yn rhy bell i rai.
"Ydych chi'n meddwl y gallwn i chwifio baner y Scarlets neu weiddi dros Lanelli?" Gofynnodd Brian Hopkins.
"Yn union fel na fydd cefnogwyr Pontypridd byth yn dilyn Caerdydd, oherwydd ei fod yn eu natur i gefnogi eu clwb eu hunain".
Ychwanegodd Mr Hopkins ei fod yn "cofio'r dyddiau" pan fyddai 6,000 o gefnogwyr yn dod i wylio rygbi o'r radd flaenaf yn y Gnoll.

Mae Emlyn Jones yn poeni y bydd chwraeawyr ifanc yn gadael ein clybiau a'n cymunedau ac efallai byth yn dychwelyd
Yr un ymdeimlad sydd i'w glywed gan glybiau yn y canolbarth ac yng ngorllewin a gogledd Cymru, sef bod angen iddyn nhw weithio'n galetach er mwyn i'w lleisiau gael eu clywed gan URC yng Nghaerdydd.
Mae Clwb Rygbi Aberystwyth yn rhan fawr o'r gymuned a dywedodd eu cadeirydd, Emlyn Jones, "ei bod hi'n llawer anoddach i chwaraewyr ifanc talentog o glybiau fel Aberystwyth i ddatblygu na chwaraewr ifanc yn y de".
"Y duedd nawr yw eu bod yn mynd dros y ffin ac rydyn ni wedi colli chwe chwaraewr y tymor hwn o'n tîm ieuenctid ein hunain i Loegr," ychwanegodd.
Mae'n rhybuddio y bydd chwaraewyr ifanc yn gadael ein clybiau a'n cymunedau ac efallai byth yn dychwelyd "os ydyn nhw'n dewis aros, gweithio a chwarae eu rygbi yn Lloegr".
'Y cyfan dros y lle'
Mae Clwb Rygbi Blaenafon yn dweud bod ganddyn nhw berthynas agos iawn â'r Dreigiau.
Wrth ymateb i'r newyddion bod URC'n bwriadu cael gwared ar ranbarth, dywedodd cadeirydd y clwb, Paul Tanner, fod y "cyfan wedi bod dros y lle braidd, a dweud y gwir".
Esboniodd bod y Dreigiau'n gwneud llawer â nhw a bod chwaraewyr yn mynd yno "i gynnal gwersylloedd hyfforddi ac rydym yn gefnogwyr rheolaidd i lawr yn Rodney Parade".
Ni allai Paul a'i ffrindiau byth weld eu hunain yn teithio i Gaerdydd i gefnogi clwb mwy - "byddai'n well gen i fynd i Gaerloyw neu Fryste" meddai.

"Byddai'r syniad o gael dau dîm proffesiynol yn welliant o ran beth sydd gyda ni nawr," medd Laura Satterly
Un rhan o rygbi Cymru sydd yn dal i obeithio y byddan nhw'n elwa o'r cynlluniau newydd ydy gêm y menywod - ond does dim sicrwydd ganddyn nhw chwaith o ran sut olwg fydd ar y gêm yn y dyfodol.
Fe gafodd tîm y merched amser anodd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ac yng Nghwpan y Byd.
Ond, mae'r Undeb yn dal i ddweud y byddan nhw'n cyllido dau dîm elît yng ngêm y merched, yn ogystal ag academi cenedlaethol.
Un o'r clybiau rygbi merched sy'n tyfu fwyaf yng Nghymru ydy tîm merched Clwb Rygbi Cymry Caerdydd.
Dywedodd Laura Satterly, sy'n chwarae ail-reng i'r clwb bod llawer mwy o sylw i gêm y menywod bellach, "felly byddai'r syniad o gael dau dîm proffesiynol yn welliant o ran beth sydd gyda ni nawr".
Ychwanegodd er bod gêm y merched yn "ffynnu" bod angen yr holl gymorth sydd ar gael gan yr Undeb - Undeb sydd yn y gorffennol, wedi cael eu beirniadu am eu hagwedd tuag at fenywod a'u rôl mewn chwaraeon.

Dywedodd Dan Hallett ei fod "e fel petai'r Undeb eisiau rheoli pob agwedd o'r rygbi yn ganolog"
"Mae dal gyda ni bryderon enfawr, roedd y broses ei hun yn wallus dros ben," meddai Dan Hallett, cadeirydd clwb cefnogwyr y Dreigiau.
"Does dim digon o fanylion yn beth mae Undeb Rygbi Cymru wedi ei ryddhau hyd yn hyn, ac hoffen ni weld mwy am y broses drwyddedu yma.
"Mae e dal fel petai'r Undeb eisiau rheoli pob agwedd o'r rygbi yn ganolog, sy'n fy mhoeni i'n fawr – dyw eu record nhw ar hynny ddim yn grêt."

"Roedden ni'n brwydro'n galed i gadw'r pedwar rhanbarth," medd Stephen Morris
Roedd Stephen Morris, 64, hefyd ymhlith y dwsinau o gefnogwyr wnaeth ymgynnull ar gyfer yr orymdaith.
"Pan naethon ni siarad gyda'r Undeb roedden ni'n brwydro'n galed i gadw'r pedwar rhanbarth, a ni dal yn credu mai dyna'r ffordd ymlaen," meddai.
Fe wnaeth rhai o gefnogwyr y Gweilch hefyd ymuno â'r orymdaith, yn dilyn pryder o'r newydd mai nhw fydd dan fygythiad bellach o ystyried y bwriad i gael dim ond un tîm yn y gorllewin.

Mae Paul Morris ac Adrian Gibson yn poeni am y sefyllfa
Y tu allan i Rodney Parade, roedd pryder ymhlith rhai o gefnogwyr y rhanbarth – yr un mwyaf llwyddiannus o Gymru yn yr oes broffesiynol, gan ennill y gynghrair bedair gwaith ers 2005.
"Fi yn poeni bod y Gweilch yn mynd i gael eu torri," meddai Adrian Gibson, 56, o Frynaman.
"Does dim stadiwm gyda nhw ar y funud, ac mae'r Scarlets yn rhoi lot o bwysau ar Undeb Rygbi Cymru, achos eu hanes nhw, i aros fel clwb."
Ychwanegodd un arall o gefnogwyr y Gweilch, Paul Morris: "Dyle Abertawe wedi mynd gyda'r Scarlets o'r dechrau, pan ti'n mynd yn ôl 20 mlynedd.
"Ond pallodd y Scarlets bryd hynny achos ro'n nhw moyn sefyll ar ben eu hunain, a nawr maen nhw moyn sefyll wrth eu hunain eto, dim ots am bawb arall.
"Mae Caerdydd yr un peth. I fi, ma' fe'n llanast."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.