'Marc cwestiwn' am ddyfodol ombwdsmon wedi ffrae ar-lein

  • Cyhoeddwyd
Nick Bennett
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nick Bennett wedi cynnig cymryd cyfrifoldeb am gwynion am y Gymraeg

Mae AC Plaid Cymru'n dweud bod "marc cwestiwn" am ddyfodol yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus wedi iddo fod mewn ffrae ar wefan Facebook.

Fe wnaeth Adam Price gyhuddo Nick Bennett o gefnogi'r cynnig i gael gwared ar rôl Comisiynydd y Gymraeg.

Mae Mr Bennett wedi cynnig cymryd cyfrifoldeb am y cwynion am wasanaethau yn y Gymraeg.

Yn dilyn y ffrae, fe wnaeth amddiffyn ymateb i sylwadau gan bobl oedd yn gwrthwynebu'r syniad, gan ddweud mai eu "cywiro" yr oedd wedi'i wneud.

'Gor-fiwrocrataidd a chymhleth'

Mewn ymateb i ymgynghoriad ar ddiddymu rôl Comisiynydd y Gymraeg, dywedodd Mr Bennet y gallai ddatrys cwynion yn gynt na'r system bresennol, sy'n "or-fiwrocrataidd a chymhleth" yn ei ôl ef.

Dywedodd yr ombwdsmon mai ymchwilio fyddai ei rôl ef, ac mai'r comisiynydd - neu Gomisiwn y Gymraeg fel mae Llywodraeth Cymru eisiau ei greu - fyddai'n gyfrifol am unrhyw gosbau.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cwyno wrth gadeirydd pwyllgor cydraddoldeb y Cynulliad, John Griffiths, am gynigion Mr Bennett a'r ffrae ar Facebook.

Dywedodd y mudiad y dylai'r ombwdsmon fod yn ddiduedd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Adam Price bod "llinell wedi'i chroesi"

Mewn post Facebook, fe ddywedodd Mr Price nad oedd yn cytuno â'r cynnig i drosglwyddo cyfrifoldebau'r comisiynydd i'r ombwdsmon, a hynny oherwydd ei fod wedi dyfarnu yn erbyn Cyngor Cymuned Cynwyd yn y gorffennol am beidio â darparu ei holl ddogfennau yn Saesneg, yn ogystal â'r Gymraeg.

Ychwanegodd Swyddog Cyfathrebu Cymdeithas yr Iaith, Colin Nosworthy sylw yn dweud bod y penderfyniad hwnnw yn dangos nad oedd Mr Bennett yn deall y gyfraith ar y Gymraeg.

Fe wnaeth yr ombwdsmon ymateb gan ddweud bod honiad Mr Nosworthy yn "nonsens", gan ddweud nad oedd unrhyw un wedi herio ei benderfyniad yn gyfreithiol.

Galw am ymchwiliad

Dywedodd Mr Price: "Mae'r ffaith dy fod ti yn collfarnu un o brif fudiadau iaith yng Nghymru yn y modd mwyaf cyhoeddus fel hyn yn tanseilio ffydd yn eich gallu i fod yn amddiffynnydd hawliau siaradwyr Cymraeg."

Ychwanegodd bod Mr Bennett wedi torri cytundeb rhyngo ef a Chomisiynydd y Gymraeg i beidio â gwneud sylw ar waith ei gilydd.

"Rwy'n meddwl bod llinell wedi'i chroesi," meddai Mr Price.

Pan ofynnwyd iddo a oedd yn credu y dylai'r ombwdsmon golli ei swydd, dywedodd Mr Price bod "marc cwestiwn difrifol", gan ychwanegu ei fod wedi gofyn i Mr Griffiths gynnal "ymchwiliad brys".

Ffynhonnell y llun, Facebook

Yn siarad â BBC Cymru, fe wadodd Mr Bennett ei fod yn ceisio "cipio pŵer" gan y comisiynydd.

"Rwy'n bendant wedi cael y profiad o ddelio â dros 2,000 o gwynion y flwyddyn am wasanaethau cyhoeddus," meddai.

"Mae angen gwneud yn siŵr bod pobl sy'n bryderus am wasanaethau cyfrwng Cymraeg yn cael yr un hawliau â phobl sy'n dod i fy swyddfa i.