Prifathrawes groenddu cyntaf yng Nghymru wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae'r brifathrawes groenddu cyntaf yng Nghymru, Betty Campbell, wedi marw yn 82 oed.
Fe gadarnhaodd ei gŵr, Rupert, ei bod wedi marw yn ei chartref yn Nhre-biwt, Caerdydd toc wedi 19:00 ddydd Gwener ar ôl bod yn sâl am rai misoedd.
Dywedodd fod y teulu "dal mewn sioc".
Fe wnaeth Mrs Campbell, oedd hefyd yn gyn-gynghorydd yn ward Tre-biwt, dderbyn MBE am ei gwasanaeth i'w chymuned ac i addysg.
Cafodd Rachel Elizabeth Campbell - neu Betty - ei geni yng Nghaerdydd i dad o Jamaica a mam Gymreig o Farbados.
Rhwng 1960 ac 1999 bu'n gweithio fel athrawes a phrifathrawes yn ardaloedd amlethnig y ddinas, gyntaf yn Llanrhymni ac yna yn Ysgol Gynradd Mount Stuart.
Roedd hi hefyd yn aelod o'r pwyllgor paratoi ar gyfer agor y Cynulliad Cenedlaethol yn 1998.
Dywedodd ei pherthynas a'i ffrind agos, Neil Sinclair, gafodd ei fagu gyda hi yn hen ardal Porth Teigr yn Nhre-biwt, ei fod dal mewn sioc o glywed y newyddion.
"Gallwch edrych ar Betty Campbell o sawl ongl - aelod o fy nheulu, y gymuned, ffigwr gwleidyddol, cynghorydd, a phennaeth croenddu cyntaf Cymru," meddai.
"Roedd hi'n rhywun oedd yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr gan y gymuned."
Bu Mrs Campbell yn aelod o'r Bwrdd Cysylltiadau Hil rhwng 1972 ac 1976, a bu hefyd yn llywodraethwr ar BBC Cymru rhwng 1980 ac 1984.
Dywedodd iddi gael ei hysbrydoli i fod yn brifathrawes pan ddywedodd wrth un o'i hathrawon yn yr ysgol am ei huchelgais, dim ond iddi hi ddweud y "byddai'r problemau'n anorchfygol".
"Roeddwn i eisiau [i'r disgyblion] gael eu hysbrydoli. Un o fy nhasgau oedd i'w haddysgu nhw am hanes pobl dduon pan ddes i'n bennaeth ar Mount Stuart," meddai.
'Chwalu rhwystrau i eraill'
Wrth dalu teyrnged iddi, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: "Trist iawn clywed am farwolaeth Betty Campbell, prifathrawes groenddu cyntaf Cymru, rydw i'n meddwl am ei theulu a'i ffrindiau.
"Roedd Betty yn arloeswr go iawn ac yn ysbrydoliaeth i bobl eraill o gefndir du neu leiafrif ethnig arall oedd eisiau dilyn gyrfa mewn addysg a meysydd eraill yng Nghymru.
"Er iddi glywed yn yr ysgol y byddai ei huchelgais o fod yn brifathrawes yn amhosib, fe lwyddodd yn ei breuddwyd drwy weithio'n galed a dyfalbarhau, gan chwalu'r rhwystrau er mwyn i eraill allu dilyn yn olion ei thraed."