Carchar am smyglo cyffuriau i ŵyl gerddorol mewn bra

  • Cyhoeddwyd
GBBFfynhonnell y llun, Facebook/Glass Butter Baech

Mae dau berson wedi eu carcharu ar ôl ceisio smyglo cyffuriau i mewn i ŵyl gerddorol drwy eu cuddio mewn bra.

Cafodd Angharad Jones, 18, a Jordan Williams, 24, eu dal yn ceisio sleifio'r cyffuriau i mewn i ŵyl Glass Butter Beach ym Mhwllheli yn 2016.

Roedd y ddau wedi cyfaddef bod ag ecstasi ac 14 bag o gyffur TMFPP - gwerth cannoedd o bunnau - gyda'r bwriad o'i gyflenwi.

Cafodd Jones ei charcharu am 18 mis yn Llys y Goron Caernarfon, ac fe gafodd Williams ddedfryd o ddwy flynedd.

Dywedodd y swyddog Barbara Roberts o Heddlu'r Gogledd fod y ddau wedi eu harestio fel rhan o gyrch i atal cyffuriau Dosbarth A rhag cael eu dosbarthu yn yr ŵyl.

"Fe lwyddon ni yn ein bwriad ac fe gafodd swm mawr o gyffuriau eu hatafaelu," meddai.