Chris Coleman 'yn gyffrous am ddyfodol pêl-droed Cymru'
- Cyhoeddwyd
Mae Osian Roberts wedi dweud fod Chris Coleman "wrth ei fodd yn rheoli Cymru" ac yn "gyffrous am eu dyfodol".
Ond fe gyfaddefodd y byddai angen i'r rheolwr wneud "penderfyniad anodd" ynglŷn â'i ddyfodol, a hynny wedi iddo awgrymu yn y gorffennol y byddai'n gadael ei swydd ar ddiwedd ymgyrch Cwpan y Byd.
Mae Roberts wedi bod yn cynorthwyo Coleman ers 2012, pan gafodd y swydd fel olynydd Gary Speed.
Ond ar ôl i'r tîm fethu â chyrraedd y gystadleuaeth yn Rwsia yn dilyn y golled i Weriniaeth Iwerddon, mae dyfodol y rheolwr yn y fantol.
'Trawsnewid y garfan'
"Mae'n mynd i fod yn benderfyniad anodd ac yn un enfawr iddo fo," meddai Roberts wrth siarad â BBC Radio Wales Sport.
"Mi fydd o'n meddwl am y peth am sbel. Does dim dwywaith ei fod o wrth ei fodd yn rheoli Cymru, ond mae'n rhaid iddo fo wneud beth sydd orau iddo fo gyntaf ac mi wnawn ni fynd â phethau o fanno wedyn."
Roedd Roberts yn is-reolwr i Speed, a phan gafodd Coleman ei benodi fe arhosodd yn aelod o'r staff cynorthwyol.
Llwyddodd y tîm i greu hanes y llynedd drwy gyrraedd rownd gynderfynol Euro 2016 - eu twrnamaint cyntaf mewn 58 mlynedd.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru'n awyddus i weld Coleman yn aros ar gyfer yr ymgyrch nesaf i gyrraedd Euro 2020, gyda disgwyl y bydd trafodaethau'n cael eu cynnal cyn i'w gytundeb ddod i ben ym mis Tachwedd.
Mae rhai o brif chwaraewyr Cymru hefyd wedi dweud wrth y rheolwr eu bod am iddo barhau yn y swydd.
"Mae'r trawsnewidiad yna o garfan yr Euros i garfan newydd yn digwydd yn barod, mae 'na saith neu wyth wyneb newydd 'di dod i mewn," meddai Roberts.
"Felly dwi'n gwybod fod Chris yn gyffrous am y chwaraewyr ifanc sy'n dod drwodd ac yn cryfhau beth sydd gennym ni'n barod yn y tîm cyntaf.
"Mae'r Gymdeithas Bêl-droed wedi dod allan yn gyhoeddus a dweud eu bod nhw eisiau iddo fo aros, dyna ydi'r cam cyntaf.
"Wedyn mae'n dibynnu ar y trafodaethau yna, sut mae'r rheiny'n mynd ac yn y blaen.
"Beth sy'n amlwg ydi fod Chris yn angerddol ac wrth ei fodd yn rheoli Cymru.
"Mae o'n teimlo'n gyffrous am y dyfodol. Mae o'n teimlo y gallwn ni adeiladu ar beth 'dan ni eisoes wedi'i gyflawni."