Carthion yn llygru 'un o bob pum afon' yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pibell carthffosiaethFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl WWF, mae angen mwy o reoleiddio i osgoi llygredd carthion

Mae bron i un o bob pum afon yng Nghymru wedi eu llygru gan garthion, yn ôl dogfen newydd.

Yn ôl dadansoddiad cwmni ymgynghori, mae 17% o'r afonydd yn yr ardal sydd dan ofal Dŵr Cymru wedi eu heffeithio.

Mae'r data yn rhan o adroddiad gan elusen WWF sy'n honni bydd problemau carthion yn gwaethygu.

Ond dywedodd WaterUK, sy'n cynrychioli cwmnïau dŵr, bod y mudiad yn rhoi "darlun anghywir".

Canran leiaf o Gymru a Lloegr

Yn ôl y data, ardal Dŵr Cymru sydd â'r ganran leiaf o afonydd sydd wedi'u llygru gan garthion o ardaloedd y 10 cwmni dŵr yng Nghymru a Lloegr.

Mae 61% o afonydd ardal cwmni Dŵr Hafren Trent, sy'n cyflenwi rhannau o ganolbarth Cymru, wedi'u heffeithio yn ôl y ddogfen.

Dywedodd Ben Stafford o WWF bod angen mwy o reoleiddio ac na ddylai hi "fod yn gyfreithiol dderbyniol i lygru ein hafonydd neu ollwng carthion sydd heb eu trin yn aml".

Ond yn ôl llefarydd ar ran WaterUK, dydy'r WWF ddim yn gwahaniaethu rhwng llygru difrifol a'r mwyafrif o achlysuron sydd "ond ag effaith gyfyngedig neu leol ar safon dŵr".