Creu gwaith o'r carthion
- Cyhoeddwyd
Mae Jack Jones, sy'n wreiddiol o Hwlffordd, wedi bod yn gweithio yn un o wersylloedd ffoaduriaid mwya'r byd ers 2015.
Er mai datrysiad dros dro oedd gwersyll Kakuma yn Kenya i fod pan agorodd yn 1992, mae bellach yn gartref i dros 180,000 o bobl sydd wedi dianc oddi wrth ryfel a sychder. Mae Jack yn rhan o dîm sy'n ceisio dod o hyd i atebion i rai o anghenion sylfaenol, ond hanfodol y trigolion.
Mae Kakuma yn yr anialwch, ac mae'r tymheredd yn 35 gradd y rhan fwyaf o'r amser. Mae'r newid yn yr hinsawdd yn golygu fod y cawodydd glaw prin yn mynd hyd yn oed yn fwy prin y dyddiau yma.
Ond pan siaradodd Cymru Fyw â Jack, roedd hi wedi bod yn bwrw glaw y diwrnod cynt, ac roedd hynny wedi cyffroi pawb...
'Dyw hi bron byth yn bwrw glaw, felly pan mae hi, mae bywyd pawb yn arafu 'chydig bach 'ma! Mae'r hewlydd yn mynd yn fwdlyd dros ben ac felly mae'n anodd mynd i'r safle, a phan nes i gyrraedd ddoe, doedd neb arall yno!
Ond achos ei bod hi mor dwym fel arfer, oedd e'n neis gyda'r nos cael cysgu heb y fan ymlaen!
900 tunnell o wastraff dynol
Dwi'n gweithio i gwmni Sanivation yma yn Kakuma ar brosiect sy'n cael ei ariannu gan Bill and Melinda Gates Fund trwy UNHCR a Norwegian Refugee Council. Dyma brosiect sy'n ceisio dod o hyd i ddatrysiadau i anghenion carthffosiaeth y gwersyll ffoaduriaid.
Mae'r gwersyll yn cynhyrchu 900 tunnell o wastraff dynol bob mis, ac yn cael eu rhoi mewn tyllau (latrines). Pan mae rhain yn llenwi, mae mwy o berygl fod afiechydon fel colera yn lledu.
Ar yr un pryd, mae 600 tunnell o siarcol yn cael ei gludo i'r gwersyll i'w ddefnyddio i goginio, wedi eu greu o'r coed prin sydd dal i fod ar ôl yn yr ardal. 'Dyw hyn ddim yn gynaliadwy.
Mae'r cwmni wedi datblygu toiledau arbennig sy'n storio'r carthion, sydd wedyn yn cael ei gasglu a'i gludo i safle'r cwmni. Yno, mae'n cael ei drin, ei sterileiddio, ei gymysgu â lludw a'i wasgu i greu brics golosg gall y bobl eu defnyddio i goginio.
Maen nhw'n llosgi'n hirach na siarcol arferol ac yn cynhyrchu llai o fwg. Ac yn wahanol i be' 'sa chi'n ei feddwl, dydyn nhw ddim yn drewi! Roedd 'na amheuon ar y dechrau, ond mae safon a pha mor rhad yw'r brics i'w prynu wedi achosi iddyn nhw fod yn boblogaidd iawn.
Pob dydd yn wahanol
Does dim 'diwrnod arferol' yn y swydd yma, a dweud y gwir. Ar y dechre, roedden ni'n cynllunio'r system oedd yn trin y carthion a'i droi yn frics ac roedd hyn yn lot o amser ar y cyfrifiadur.
Yna, roedd rhaid adeiladu'r peiriant, gymerodd lawer o amser a llawer o drwsio a gwaith trydanol. A nawr dwi yma i wneud y gwaith operational, sicrhau fod y broses yn gweithio cystal â phosib, a hyfforddi'r bobl leol i'w gynnal a chadw.
'Ni'n gobeithio cael mwy o doiledau, fydd wrth gwrs yn golygu mwy o garthion, ac felly bydd hyn yn golygu mwy o waith i'r peiriannau. Y gobaith i'r prosiect yw ei fod e'n gallu cael ei weithredu gan y bobl leol yn llwyr, gyda 'chydig o gymorth gan y prif swyddfa.
Mae bywyd yn gallu bod yn eitha' anodd. Does yna ddim llawer fan hyn yn Kakuma - dim ond 'chydig o siopau a bariau, ac mae hyn yn arbennig o anodd pan mae rhan o'r peiriant yn torri a dydy'r ffiws penodol ddim ar gael yn 'nunlle yn Kenya gyfan!
"Shwmae" i'r dyn gwyn
Ar y prosiect yma, fi yw'r unig aelod o staff rhyngwladol, mae un aelod o Nairobi, ac mae'r gweddill o'r gwersyll neu o'r dref. Dwi ddim yn siarad Swahili'n dda iawn, felly tydw i ddim bob amser yn deall beth sy'n mynd ymlaen, ond dwi wedi dod i arfer ag e.
Dwi wedi dysgu 'chydig o Gymraeg i rai o'r plant, felly maen nhw'n gweiddi 'Shwmae' arna i nawr! Dwi'n edrych 'mlaen i'r dydd pan daw Cymro arall i'r ardal a dod ar draws grŵp o blant lleol sy'n siarad Cymraeg...!
Welis i labrwr yn gweithio ar y safle mewn crys pêl-droed Cymru, un dydd. 'Nes i ddweud wrtho fe fod e'n gwisgo crys fy ngwlad i - "What - Japan?" meddai! Mae llawer o'r dillad yn y gwersyll wedi dod oddi wrth elusennau - dwi hefyd wedi gweld dyn yn gwisgo trowsus y Scarlets!
Dwi'n caru'r gwaith 'ma, er fod carthffosiaeth ddim yn glamorous, a dwyt ti ddim bob amser yn gallu gweld yr effaith. Ddoe ges i fynd i'r safle a gweld y toiledau newydd a siarad â'r bobl sy'n eu defnyddio, a gweld eu bod yn helpu pobl - ond fel arfer, dwi ddim yn cael gweld lot o hynny.
Ond mae prosiectau fel hyn yn gallu trawsnewid bywydau pobl - gwella iechyd a charthffosiaeth, darparu tanwydd, ynghyd â hyfforddiant a swyddi. Mae mor bwysig, ac mae'n rhaid edrych ar yr effaith tymor hir.