Gofal plant Powys: Cyngor yn siarad â'r heddlu am ddata

  • Cyhoeddwyd
Plentyn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd "cyfleoedd coll i ddiogelu plant" ym Mhowys, meddai'r adroddiad

Mae Cyngor Powys yn siarad â'r heddlu am y posibilrwydd bod data am berfformiad o fewn gwasanaethau plant wedi ei newid, yn ôl y Prif Weithredwr, Jeremy Patterson.

Daw ar ôl i arolygwyr ddweud bod plant ym Mhowys "mewn perygl o niwed" achos methiannau gwasanaethau cymdeithasol y sir.

Dywedodd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) bod angen i'r cyngor lunio cynllun gwella o fewn 20 diwrnod oherwydd eu "pryderon difrifol".

Mae eu hadroddiad yn nodi, dolen allanol bod "cyfleoedd coll i ddiogelu plant" yn y sir, er gwaethaf "ceisiadau am gymorth".

Fe ddywedodd arweinydd Cyngor Powys eu bod yn "ymddiheuro" am y sefyllfa, gan ychwanegu bod "ymchwiliad ffurfiol" ar droed am y ffordd y cafodd data ei drin o fewn y gwasanaeth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y gallan nhw roi'r adran gwasanaethau cymdeithasol mewn mesurau arbennig os na fydd 'na welliannau mewn 90 diwrnod.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jeremy Patterson y gallai data am berfformiad y gwasanaeth fgod wedi ei newid

Dywedodd Mr Patterson ei bod yn "ymddangos bod gwybodaeth o ran problemau yn y gwasanaeth yn cael ei ddal yn ôl a bod peth o'r data am berfformiad wedi ei newid".

"Mae hyn yn fater difrifol iawn. Rydyn ni'n symud ymlaen gydag ymchwiliad ffurfiol ac yn cydweithio â'r heddlu."

Ychwanegodd bod cyfnod pan oedd plant mewn perygl yn y sir, ond bod y cyngor wedi gweithredu "ar unwaith" wedi'r adolygiad.

'Plant mewn perygl o niwed'

Yn ôl dogfen AGGCC, dangosodd eu hadolygiad bod "diffyg cynllunio ar gyfer asesu, gofal a chymorth" yng ngwasanaethau'r sir.

Roedd "dull anghyson o weithio" yn unol â chanllawiau sy'n diogelu plant rhag ecsbloetio rhywiol yn golygu bod "plant mewn perygl o niwed," meddai'r adroddiad.

Gan gyfeirio at y cyfleoedd gafodd eu colli, mae AGGCC yn dweud nad ydy "risgiau yn cael eu hasesu'n briodol nac yn ddigon cadarn" a bod dim "system effeithiol i nodi a rheoli risgiau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru yn bygwth cymryd rheolaeth uniongyrchol o adran gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Powys

Nododd y corff bod staff yn "dangos ymrwymiad" ond fod "problemau perfformio difrifol o ran y gwasanaethau rheng flaen yn codi oherwydd y rheolaeth ansefydlog, arweiniad gwael a dryslyd, a llywodraethu gwan".

Gan nodi bod yn rhaid i Gyngor Powys lunio cynllun gwella o fewn 20 diwrnod, dywedodd y Prif Arolygydd Gillian Baranski ei bod yn "disgwyl gweld gwelliannau cyflym er mwyn sicrhau bod plant yn cael eu diogelu a bod teuluoedd ym Mhowys yn derbyn y lefel o wasanaethau y maen nhw'n ei haeddu".

Ymchwiliad i bryderon

Yn ei hymateb, dywedodd arweinydd y cyngor ei bod yn "ymddiheuro" am y methiannau.

"Rydym yn llwyr dderbyn argymhellion y rheoleiddwyr. Mae eu hadroddiad yn ddiflewyn ar dafod ac yn heriol," meddai Rosemarie Harris.

"Mae'n ddrwg gennym i ni fethu cwrdd â'r safonau uchel y mae ein trigolion yn eu haeddu ac yn ymddiheuro am ein diffygion."

Dywedodd bod mwy o staff wedi eu penodi ers yr etholiad ym mis Mai, gan gynnwys pennaeth gwasanaethau newydd a chyfarwyddwr gofal cymdeithasol newydd dros dro.

"Mae llawer o waith wedi digwydd yn barod. Newidiwyd rhai o aelodau staff uwch y cyngor a rhoddwyd camau ar waith ar unwaith i atgyfnerthu'r gwasanaeth yn hytrach nag aros am yr adroddiad terfynol," meddai.

Ond ychwanegodd: "O ganlyniad i ddatgelu gwybodaeth a chynhyrchu data o fewn y gwasanaeth, mae pryderon difrifol wedi dod i'r amlwg, sydd erbyn hyn yn destun ymchwiliad ffurfiol."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Rebecca Evans AC, gallai'r llywodraeth "ymyrryd yn fwy uniongyrchol"

Dywedodd Llywodraeth Cymru y gallan nhw gymryd yr awenau ym Mhowys os nad oes gwelliannau brys.

Yn ôl Rebecca Evans, y gweinidog gwasanaethau cyhoeddus, mae hi wedi cwrdd ag arweinydd a phrif weithredwr Cyngor Powys i "bwysleisio pa mor ddifrifol mae Llywodraeth Cymru yn ystyried y sefyllfa hon".

Ychwanegodd na fyddai'n "oedi cyn defnyddio'r pwerau sydd gan Lywodraeth Cymru o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles i ymyrryd yn fwy uniongyrchol".

Ac wrth drafod y mater yn ystod Cwestiynau'r Prif Weinidog ddydd Mawrth, dywedodd Carwyn Jones fod cymryd rheolaeth o ddyletswyddau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod yn "opsiwn" os yw'n methu â chyflawni ei dyletswyddau yn unol ag amodau'r rhybudd.

'Angen gwelliannau'n gyflym'

Dywedodd AC Plaid Cymru, Simon Thomas, ei fod wedi "synnu" o weld "maint methiant arweinyddiaeth y cyngor a pha mor gyflym y mae pethau wedi dirywio".

"Byddaf yn gofyn pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn perthynas â gwarchod plant ym Mhowys. Mae natur ddifrifol yr adroddiad a'r ffaith bod plant a phobl ifanc wedi eu rhoi mewn perygl oherwydd methiannau yn golygu ein bod angen gwelliannau'n gyflym," meddai.

Fe ddywedodd Angela Burns AC o'r Ceidwadwyr Cymreig bod yn rhaid i'r cyngor "ystyried argymhellion yr adroddiad yn ofalus a gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i osgoi sefyllfa lle mae'r llywodraeth yn ymyrryd yn uniongyrchol".

Ychwanegodd: "Does ond angen edrych ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i weld sut olwg fyddai ar sefyllfa o'r fath."