Dim cynyddu ffioedd dysgu myfyrwyr prifysgolion Cymru
- Cyhoeddwyd
Ni fydd ffioedd dysgu myfyrwyr prifysgol yng Nghymru yn cynyddu uwchben £9,000 y flwyddyn nesaf wedi'r cyfan, yn ôl yr Ysgrifennydd Addysg.
Roedd disgwyl i'r uchafswm y byddai'n rhaid i fyfyrwyr ei dalu godi o £9,000 i £9,295 o'r flwyddyn nesaf ymlaen.
Ond yn ôl Kirsty Williams roedd cynlluniau tebyg yn Lloegr wedi achosi "cynnwrf", a doedd hi ddim yn fodlon i "ansicrwydd gwleidyddol Llywodraeth Prydain darfu ar ein cynlluniau i sicrhau system addysg uwch sefydlog yng Nghymru".
Mae undeb myfyrwyr wedi croesawu'r penderfyniad, gan ddweud y byddai'r cynnydd "wedi achosi ansicrwydd a phryder".
'Sicrhau sefydlogrwydd'
Cyhoeddodd Ms Williams y bydd hi'n darparu £16m i'r sector addysg uwch dros y ddwy flynedd nesaf i'w digolledu yn dilyn y cyhoeddiad am y newid i'r polisi ffioedd.
Daeth cyhoeddiad hefyd y bydd y lefel o incwm y bydd yn rhaid i raddedigion ei ennill cyn dechrau ad-dalu benthyciadau yn codi o £21,000 i £25,000.
Dywedodd Ms Williams: "Nid yw ein sector ni'n gweithredu'n annibynnol, ac mae'n rhaid inni sicrhau sefydlogrwydd i'n sefydliadau er mwyn iddynt allu cystadlu yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
"Ar sail yr hinsawdd wleidyddol yn Lloegr, rwy wedi rhoi ystyriaeth ofalus i'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol mewn perthynas â lefelau'r ffioedd dysgu."
Croeso gan undeb myfyrwyr
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, ei bod yn croesawu'r tro pedol ym mholisi Llywodraeth Cymru, a'i bod hi'n anghywir ac yn sinigaidd i godi ffioedd ar ôl addewid etholiadol i beidio â gwneud.
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar addysg, Darren Millar, ei fod yn "falch" gweld tro pedol Llywodraeth Cymru, gan y byddai cynnydd "wedi gweld myfyrwyr yng Nghymru yn talu mwy am eu haddysg nac unrhyw le arall yn y DU, er addewidion etholiadol i'w diddymu'n llwyr".
Cafodd y cyhoeddiad groeso gan Undeb y Myfyrwyr yng Nghymru. Dywedodd llywydd yr undeb, Ellen Jones, y byddai codi ffioedd eto "wedi achosi ansicrwydd a phryder i fyfyrwyr o'r cefndiroedd lleiaf breintiedig".
"Mae'n gyfnod cyffrous iawn i addysg yng Nghymru, ac mae gan Kirsty Williams gyfle euraidd i adeiladu system sy'n hygyrch, yn gynhwysol, yn gynaliadwy - sydd yn hanfodol", meddai.
"Mae hynny'n golygu, tra na ellir disgwyl i fyfyrwyr ysgwyddo baich llymder, mae hefyd yn bwysig sicrhau fod prifysgolion wedi'u cyllido'n ddigonol er mwyn cyflenwi'r addysg wych mae ein myfyrwyr yn ei haeddu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd27 Medi 2016