Syr Tom Jones 'wedi dioddef profiad o aflonyddu rhywiol'
- Cyhoeddwyd
Mae Syr Tom Jones wedi datgelu ei fod wedi dioddef profiad o aflonyddu rhywiol pan yn ddyn ifanc.
Roedd Syr Tom yn siarad â'r BBC ynglŷn â'r honiadau o gam-drin rhyw yn erbyn y cynhyrchydd ffilmiau Harvey Weinstein.
Pan ofynnwyd iddo a oedd wedi cael profiad o ymddygiad amhriodol dywedodd: "Do ar y dechrau, do."
"Roedd 'na ambell beth fel yna. Ond chi'n osgoi e. Chi'n cerdded mas," meddai.
"Yr hyn sy'n cael ei drio ar ferched, mae'n cael ei drio ar ddynion hefyd. Dim ond unwaith y digwyddodd i mi."
Profiad 'ofnadwy'
Dywedodd fod y profiad wedi ei wneud i deimlo'n "ofnadwy".
"Chi'n meddwl wedyn 'mae'n rhaid i mi symud i ffwrdd o'r person yma'.
"Doedd e ddim yn ddrwg, fe drïodd rhywun... roedd e'n gwestiwn... ac fe ddywedes i 'dim diolch'.
"Mae pethau'n digwydd yn y busnes, ambell waith mae pethau'n cael eu cuddio, wedyn pan maen nhw'n dod i'r golwg mae fel tynnu corcyn o botel.
"Mae 'na bethau wastad wedi digwydd yn y diwydiant cerddoriaeth, pobl yn cwyno am bethau gwahanol roedd disgwyl iddyn nhw wneud i gael cytundeb.
"Mae'r elfen o gam-drin pŵer wedi bod yna erioed. Ond dyw pawb ddim yn cam-drin eu pŵer, mae pobl dda hefyd."