Pryder am orwario ar gynllun Ffordd Blaenau'r Cymoedd

  • Cyhoeddwyd
Ffordd Blaenau'r CymoeddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwaith ar y ffordd wedi bod yn olygfa gyfarwydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf

Mae'r Ysgrifennydd Economi Llywodraeth Cymru, Ken Skates wedi gorchymyn adolygiad i drafferthion y cynllun i wella Ffordd Blaenau'r Cymoedd.

Fe ddaeth y gorchymyn yn dilyn pryder am orwario wrth i'r gwaith gymryd amser ychwanegol i'w gwblhau.

Mae'r prosiect £220m yn lledu'r A465 rhwng Brynmawr a Gilwern.

Fe ddechreuodd y gwaith yn 2015 a'r bwriad oedd cwblhau'r cynllun erbyn gwanwyn 2019.

Ond mae BBC Cymru wedi cael gwybod na fydd y gwaith cael ei gwblhau nes yn hwyrach y flwyddyn honno, sy'n golygu cynnydd sylweddol mewn costau.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae natur heriol y gwaith yn golygu fod effaith wedi bod ar y rhaglen i gwblhau'r gwaith, ac oherwydd hyn mae'r ysgrifennydd cabinet wedi gorchymyn adolygiad llawn o'r rhaglen a'r gost.

"Mae disgwyl i'r broses gael ei gwblhau yn fuan."