Lansio rhaglen £100m i adfywio ardaloedd difreintiedig

  • Cyhoeddwyd
CymoeddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhaglen yn gobeithio adfywio ardaloedd sydd "dan gysgod diwydiannau trwm y gorffennol"

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio rhaglen fuddsoddi newydd gwerth £100m ar gyfer adfywio ardaloedd difreintiedig y wlad.

Bydd awdurdodau lleol yn gallu gwneud cais am fuddsoddiad ar gyfer prosiectau sy'n hyrwyddo adfywiad economaidd.

Nod y prosiect yw sicrhau datblygu cynaliadwy yn yr ardaloedd "sydd ei angen fwyaf".

Bydd adnoddau'n cael eu rhoi tuag at nifer cyfyngedig o gynigion, a bydd y rhaglen yn buddsoddi mewn prosiectau o fis Ebrill 2018.

Ffynhonnell y llun, Rightacres Property
Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith yw y bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i ategu prosiectau fel Bargen Ddinesig Caerdydd

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant, Carl Sargeant fod gan y rhaglen "ran hanfodol i'w chwarae" wrth greu cymunedau cryf ym mhob rhan o Gymru.

"Mae heriau penodol i'w goresgyn wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a datblygu cymunedau cynaliadwy sydd wedi'u cysylltu'n dda mewn ardaloedd sydd dan anfantais yn economaidd neu o dan gysgod diwydiannau trwm y gorffennol," meddai.

"Ry'n ni hefyd yn cydnabod fod ardaloedd gwledig yn wynebu heriau gwahanol.

"Dylai awdurdodau lleol a phartneriaethau rhanbarthol ddefnyddio'r cyllid hwn i ategu buddsoddiadau eraill ry'n ni'n eu gwneud i wella ffyniant, fel y gwaith sy'n cael ei wneud fel rhan o'r Bargeinion Dinesig, buddsoddi yn y Metro, cynigion Tasglu'r Cymoedd, a'r paratoadau ar gyfer Wylfa Newydd."

Bydd Panel Buddsoddi Cenedlaethol mewn Gwaith Adfywio hefyd yn cael ei sefydlu, gyda'r nod o sicrhau bod y buddsoddiad yn cael ei ddefnyddio yn effeithiol.