Galw i ddefnyddio technoleg rithwir i ddenu twristiaid

  • Cyhoeddwyd
Technoleg rithwir
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl yn teimlo fel eu bod yn rhywle arall trwy ddefnyddio'r dechnoleg

Mae busnesau twristiaeth yn cael eu hannog i ddefnyddio technoleg rithwir - virtual reality - i hybu atyniadau Cymru.

Mae Croeso Cymru wedi datgelu ei fod wedi rhoi £290,000 i chwe phrosiect rhithwir trwy Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates bod nifer cynyddol o fusnesau yn manteisio ar y dechnoleg i hyrwyddo'u hunain.

Mae busnesau a sefydliadau'n honni bod y dechnoleg wedi cynyddu eu cysylltiad gydag ymwelwyr posib.

'Anhygoel'

Fe wnaeth Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru dderbyn £30,000 i greu dau fideo rhithwir.

Cafodd y fideos eu creu mewn partneriaeth â chorff Island Friends fel rhan o ymgyrch Blwyddyn Chwedlau 2017 Croeso Cymru.

Dywedodd rheolwr datblygu marchnata'r ymddiriedolaeth, Gina Gavigan, eu bod wedi dangos y fideos mewn sioeau, ysgolion ac atyniadau bywyd gwyllt.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gina Gavigan bod technoleg rithwir yn "ysbrydoli pobl"

"Fel elusen rydyn ni eisiau ysbrydoli pobl ifanc am y bywyd gwyllt anhygoel sydd gennym ni yma yng Nghymru a pha ffordd well i wneud hynny na defnyddio technoleg rithwir," meddai.

"Mae'r genhedlaeth iau mor gyfforddus â thechnoleg maen nhw'n ei ddeall yn syth, ond mae'n ddiddorol gweld y genhedlaeth hŷn, a pha mor anhygoel maen nhw'n meddwl yw e hefyd."

Dywedodd Dr Nigel Jones, darlithydd systemau gwybodaeth ym Mhrifysgol Met Caerdydd, bod technoleg rithwir yn dod yn fwy poblogaidd wrth iddo ddod yn rhatach ac yn haws i'w ddefnyddio.

Ychwanegodd ei fod yn ddeniadol i dwristiaid am ei fod yn eu galluogi i ymwneud â lleoliad neu atyniad y byddan nhw heb ystyried mynd i'w weld fel arall.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Nigel Jones bod y dechnoleg yn dod yn fwy poblogaidd

"'Dych chi'n gallu rhoi rhywbeth mwy cyffyrddadwy i'r person - maen nhw'n gallu gweld ble maen nhw'n mynd a'r hyn sy'n digwydd yno," meddai.

"Mantais arall yw rhoi profiad i rywun y byddan nhw ddim yn gallu ei wneud fel arall, fel lle does dim modd ei gyrraedd yn hawdd."

Dywedodd Mr Skates bod technoleg rithwir yn aros "yn y cof am hirach" na phamffled neu hysbyseb.

"Wrth geisio denu rhywun i Gymru a gwerthu'r syniad o beth fyddai gwyliau yng Nghymru, mae technoleg rithwir yn ffordd berffaith i ddod â'r profiadau hynny'n fyw, a rhoi syniad i bobl o'r hyn all Cymru gynnig," meddai.