Effaith 'torcalonnus' Storm Brian ar forloi Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae sefydliad bywyd gwyllt yn dweud eu bod yn teimlo'n "dorcalonnus" wedi i dros 60% o forloi ifanc ynysoedd yn Sir Benfro gael eu lladd yn ystod stormydd diweddar.
Dywedodd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru fod stormydd Ophelia a Brian wedi "creu dinistr" ar ynysoedd Sgomer a Sgogwm.
Yn ogystal â'r difrod i adeiladau ac offer ar yr ynys, cafodd y stormydd hefyd effaith enbyd ar rai o'r anifeiliaid.
Mae'r ymddiriedolaeth nawr wedi lansio apêl i godi £25,000 er mwyn ceisio "gwyrdroi effaith y stormydd anfaddeugar yma".
Mae ynysoedd Sgomer a Sgogwm yn safleoedd cadwraeth sydd yn gartref i dros hanner poblogaeth y palod Manaw sydd i'w canfod yn y byd.
Mae Ynys Sgomer hefyd yn lleoliad bridio ar gyfer y morlo llwyd, a dywedodd yr ymddiriedolaeth fod digwyddiadau naturiol fel hyn yn gallu cael effaith sylweddol ar y boblogaeth.
Byddai'r arian sy'n cael ei godi, medden nhw, yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu braslun ar gyfer delio â marwolaethau adar, ac i fonitro'r effaith ar adar a morloi'r ynysoedd.
Byddai hefyd angen atgyweirio difrod y storm, a cheisio adeiladu amddiffynfeydd er mwyn gwarchod yr ynysoedd yn y dyfodol.
Ychwanegodd yr ymddiriedolaeth y byddai unrhyw arian ychwanegol wedi i £25,000 gael ei godi yn cael ei ddefnyddio er mwyn prynu offer hanfodol ar gyfer yr ynysoedd.
"Rhain oedd y stormydd cryfaf ers 1987, ac yn anffodus, mae stormydd nerthol fel hyn yn dod yn fwy cyffredin gan fod ein hynysoedd ni'n agored ac yn fregus i dywydd garw," meddai Lizzie Wilberforce, rheolwr cadwraeth Ynys Sgomer ac Ynys Sgogwm.
"Mae'n hanfodol ein bod ni'n gosod protocolau yn eu lle i ddelio'n well â'r effeithiau posib ar fywyd gwyllt ac isadeiledd yr ynysoedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Medi 2015