Pryderon am gynllun i werthu safle Bath-house Aberteifi

  • Cyhoeddwyd
aberteifi

Mae cynghorydd sir o Aberteifi wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod yn pryderu ynghylch cynlluniau i farchnata safle Bath-house fel datblygiad masnachol neu gartrefi posibl.

Fe gafodd caniatâd cynllunio ei roi ar gyfer archfarchnad a gorsaf betrol yn 2008, ond ni chafodd unrhyw beth ei adeiladu yno, er gwaethaf y ffaith fod ffordd gyswllt costus gydag arwyddion ar gyfer yr archfarchnad arfaethedig wedi eu hadeiladu

Mae'r perchnogion, cwmni Sainsbury's, wedi gosod y safle ar y farchnad, ar ôl iddynt ddod a chynlluniau i adeiladu'r archfarchnad i ben yn 2014.

Mae'r safle, ger canol tref Aberteifi, yn ymestyn bron i 15 erw, gyda hanner y safle wedi ei ddynodi ar gyfer ei ddatblygu.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd John Adams Lewis fod angen canolfan chwaraeon yn Aberteifi

Mae'r Cynghorydd John Adams Lewis, sy'n cynrychioli ward Mwldan, wedi dweud ei fod yn pryderu ers tro, y gallai ansefydlogrwydd gyda'r tir wneud unrhyw ddatblygiad yno yn amhosib.

"Mae pum ffynnon naturiol ar y tir, yn ôl y ffermwr sydd wedi bod yn ffermio arno, dwi ddim yn meddwl ei bod yn addas i adeiladu arno."

"Cyn belled ag yr ydw i yn y cwestiwn, dwi'n meddwl mai'r defnydd gorau ar ei gyfer fyddai canolfan i chwaraeon. Mae angen un arnom yn Aberteifi.

"Os bydd symudiad yn y tir, ni fyddai unrhyw berygl wedyn, tyda ni ddim am weld Aberfan na Llandudoch arall yn digwydd."

Mewn ymateb i'r pryderon a godwyd am ansefydlogrwydd y tir, dywedodd llefarydd ar ran Sainsbury's wrth BBC Cymru: "Rydym wedi gwneud gwaith adfer er mwyn sicrhau bod y safle'n ddiogel, ac y gellir ei ddatblygu yn y dyfodol. Rydym bellach yn ei farchnata ar gyfer ei werthu."