Apêl i ddatrys dirgelwch corff coedwig Cerrigydrudion
- Cyhoeddwyd

Ail-gread o wyneb y dyn
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn am gymorth gan gefnogwyr ralio er mwyn datrys dirgelwch corff gafodd ei ganfod yn 2015.
Yn ystod Rali Cymru GB bron i ddwy flynedd yn ôl fe ddaeth yr heddlu o hyd i gorff mewn coedwig yn ardal Cerrigydrudion ar y ffin rhwng siroedd Dinbych a Chonwy.
Er gwaetha' pob ymdrech yn y cyfamser, dyw'r heddlu ddim wedi llwyddo i adnabod y corff dynol.
Wrth i'r rali unwaith eto ddychwelyd i'r ardal, mae'r heddlu wedi cyhoeddi apêl o'r newydd.
Dywedodd y Ditectif Uwch-Arolygydd Iestyn Davies: "Ar noson 14 Tachwedd, 2015 fe wnaeth un o'r dorf oedd yn gwylio Rali GB Cymru ddod o hyd i weddillion dynol yn agos i gymal Clocaenog ger Pentrellyncymer.
"Er ymchwilio'n ddyfal, nid ydym wedi llwyddo i adnabod y dyn.

"Mae profion fforensig wedi dangos bod y dyn wedi cael ei lofruddio, ac rydym wedi cwblhau ail-greu ei wyneb.
"Rydym yn apelio nawr wrth i'r rali gael ei chynnal eto yn y gobaith y bydd rhywun yn adnabod y dyn o'r ail-gread.
"Er nad ydym yn gwybod ei enw, rydym yn gwybod iddo gael ei eni cyn 1950, a'i fod oddeutu 5'9" o daldra. Roedd ganddo sawl coron neu ddant gosod i'w ddannedd blaen ac mae'n debygol ei fod yn diodde' o boenau yn ei gefn.
"Rydym yn credu ei fod wedi cael ei ladd rhwng 2004 a 2010, ond ry'n ni'n cadw meddwl agored am y dyddiadau yma.
"Os oes unrhyw un yn credu eu bod yn adnabod y dyn, fe fyddwn yn ddiolchgar pe bydden nhw'n cysylltu â'r heddlu ar 101 gan ddyfynnu Ymgyrch TRACTILE, neu fe allan nhw ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111."