Elfyn Evans yn ennill Rali GB Cymru am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd

Mae Elfyn Evans wedi ennill Rali GB Cymru 2017, a hynny am y tro cyntaf erioed.
Y gŵr o Ddolgellau yw'r gyrrwr cyntaf o Brydain i ennill Rali GB ers 2000, a'r Cymro cyntaf erioed i ennill un o rasys Pencampwriaeth Rali Byd.
Fe gipiodd e'r fuddugoliaeth ar ôl tridiau o yrru ymosodol yng nghoedwigoedd y canolbarth a'r gogledd.
Ddydd Sadwrn fe enillodd chwe chymal, ac roedd ganddo fantais o 53 eiliad dros nos.
"Awyddus i ennill mwy"
Erbyn y diwedd y ras roedd Evans 37 eiliad o flaen Thierry Neuville.
"Roedd hi'n rali dda," meddai Evans ar y diwedd. "I bawb wnaeth gefnogi fi - roedd hwn i chi!
"Mae hyn ond yng fy ngwneud i'n awyddus i ennill mwy."
Roedd y rhyddhad yn amlwg i Evans gan mai hon oedd ei fuddugoliaeth gyntaf yn y gystdleuaeth - a hynny ar ôl dod o fewn trwch blewyn i ennill yn yr Ariannin yn gynharach yn y tymor.
