Rhybudd wedi i lyncs ddianc o sŵ ger Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi rhybudd ar ôl i lyncs ddianc o sŵ yng Ngheredigion.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod y lyncs Ewrasiaidd wedi dianc o ganolfan anifeiliaid yn y Borth ger Aberystwyth rywbryd yn y pum niwrnod diwethaf.
Ychwanegodd yr heddlu eu bod yn credu fod yr anifail wedi ei weld ddydd Sul, a'u bod yn parhau i ymchwilio.
Yn ôl rheolwyr y parc dyw'r anifail erioed wedi ymosod ar bobl - ond fe allai wneud "os yw wedi'i gornelu".
'Heb fynd yn bell'
Mewn neges ar Facebook fore Llun dywedodd y sŵ fod y lyncs, o'r enw Lilleth, wedi ei gweld ddwywaith ar fryn yn agos i'r ganolfan.
"Mae hynny'n golygu nad yw hi wedi mynd yn rhy bell," meddai'r neges.
"Rydyn ni'n dychmygu ei bod hi wedi mynd i guddio yn ystod y dydd ac y bydd hi'n nythu mewn llwyni cyfagos.
"Bydd ein ceidwaid yn parhau i chwilio heddiw ac yn gosod trapiau, a gobeithio y gallwn ni ei dal a dod â hi nôl at ei theulu."
Ychwanegodd y parc eu bod yn parhau i fod ar agor, a bod y lyncs yn peri "ychydig iawn o risg i'r cyhoedd".
Maen nhw wedi dweud fodd bynnag na ddylai pobl geisio mynd yn agos at yr anifail - sydd â chrafangau a dannedd miniog - os ydyn nhw'n ei weld.
"Dyw hi ddim wedi arfer hela prae byw ond fe fydd hi'n mynd ar ôl cwningod a llygod os yw hi'n llwglyd," meddai un o swyddogion y sŵ.
"Mae lyncsod yn gallu teithio tua 12 milltir y diwrnod, ond dyw hi ddim yn debygol ei bod hi wedi mynd yn bell."
'Bwyta anifeiliaid anwes'
Mae'r anifail sydd wedi dianc wedi'i ddisgrifio fel un lliw golau, gyda smotiau tywyll ar ei chefn a'i choesau, a chynffon drwchus sydd yn ddim hirach na chwe modfedd.
Os yw'r anifail yn cael ei weld, mae'r heddlu yn gofyn i bobl gysylltu â nhw neu'r sŵ yn uniongyrchol.
"Dyw'r lyncs ddim yn debygol o geisio dod at bobl, ond fe allai geisio cymryd da byw neu anifeiliaid anwes fel bwyd," meddai llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys.
"Rydyn ni yn cynghori pobl i beidio â mynd yn agos at yr anifail fodd bynnag achos fe all fynd yn ymosodol os yw'n cael ei gornelu.
"Y gred yw bod y lyncs yn parhau i fod yn weddol agos at y sŵ, ond wrth gwrs fe allai fod ychydig pellach."