Cyngor yn oedi cyn penderfynu ar safle teithwyr
- Cyhoeddwyd
Penderfynodd cynghorwyr Sir Caerfyrddin sy'n trafod cais dadleuol ar gyfer safle i deithwyr yn ardal Llanelli y bydd yn rhaid ymweld â phentre' Llangennech cyn dod i benderfyniad.
Ddydd Mawrth bu cynghorwyr yn trafod cais y chwaraewr rygbi rhyngwladol Samson Lee i sefydlu safle ar gyrion y pentref.
Nododd y cynghorwyr eu bwriad i ymweld â'r ardal cyn dod i benderfyniad terfynol.
Mae prop y Scarlets a Chymru eisiau datblygu safle ar gyfer chwech o garafanau parhaol i tua 15 aelod o'i deulu agos
Ond yn ôl Cyngor Cymuned Llangennech, ni fyddai'r datblygiad ar Lôn y Sipsiwn yn addas gan y byddai'n cael effaith ar drafnidiaeth ar yr A4138, sy'n cysylltu Llanelli gyda'r M4.
Maen nhw hefyd yn dweud fod y safle y tu allan i'r ardal sydd wedi ei chlustnodi ar gyfer datblygiad, a bod cais tebyg wedi ei wrthod yn y gorffennol.
Mae'r cais cynllunio yn dweud bod y gymuned sydd am ymgartrefu yno yn gymuned o deithwyr sydd "â chysylltiadau ers sawl cenhedlaeth gydag ardal Llanelli".
Argymhelliad swyddogion cynllunio'r sir yw cymeradwyo'r cais ar yr amod na fydd mwy na chwe charafán yn cael eu gosod yno ac na fydd unrhyw fusnesau'n gweithredu o'r safle.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2016