Joe Marler: Comisiynydd yn beirniadu sylw sarhaus

  • Cyhoeddwyd
MarlerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Marler (rhif 1) a Lee yn ymrafael yn ystod y gêm ddydd Sadwrn

Mae Comisiynydd Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru wedi dweud fod sylw sarhaus gan un o chwaraewyr Lloegr yn ystod y gêm ryngwladol ddydd Sadwrn yn "anfaddeuol" a bod angen bod yn llym am "ymateb fel hyn sy'n hiliol yn y bôn".

Roedd Ann Beynon yn ymateb ar ôl i Joe Marler wneud sylw i Samson Lee, prop Cymru, yn ystod hanner cyntaf y gêm rhwng Lloegr a Chymru yn Twickenham.

Cafodd y sylw am Lee ei glywed yn glir ar sylwebaeth ar y gêm trwy feicroffon y dyfarnwr. Mae Marler wedi ymddiheuro am y sylw.

"Dylai'r dyfarnwr yn y fan a'r lle wedi dweud nad oedd o'n dderbyniol," meddai Ms Beynon wrth Raglen Dylan Jones ar BBC Radio Cymru.

Bydd gwrandawiad disgyblu yr wythnos hon yn dilyn honiad bod Marler wedi taro chwaraewr yn ystod y gêm hefyd.

'Cyfrifoldebau'

Ar raglen Scrum V BBC Cymru, dywedodd cyn gapten Cymru, Gwyn Jones: "Mae cymdeithas yn ystyried sylwadau sarhaus am hil yn annerbyniol, a dwi'n ystyried fod hwn yn y categori yna.

"Mae cymuned y teithwyr yn cael eu cydnabod fel grŵp ethnig a dwi'n meddwl ei fod o [Marler] mewn trafferth."

Dywedodd Undeb Rygbi Lloegr bod Marler, 25, wedi ymddiheuro wrth Lee yn ystod yr egwyl ac fe gafodd ei "atgoffa'n ddiweddarach o'i gyfrifoldebau fel chwaraewr i Loegr" gan Eddie Jones, hyfforddwr y garfan.

Mae swyddogion y bencampwriaeth yn ymwybodol o'r digwyddiad ac maen nhw'n ceisio cadarnhau'r hyn ddigwyddodd.

Mewn datganiad, dywedodd Undeb Rygbi Cymru: "Rydym wedi ein siomi gan y sylw gafodd ei wneud, ac yn falch bod Joe Marler wedi ymddiheuro i Samson ac wedi cael ei atgoffa o'i gyfrifoldebau fel chwaraewr rygbi rhyngwladol."

Ddydd Llun, dywedodd Comisiynydd Annibynnol y Chwe Gwlad y byddai gwrandawiad disgyblu yn dilyn honiad bod Marler wedi taro chwaraewr arall yn ystod yr hanner cynta'.

Fe fydd gwrandawiad i'r honiad yn cael ei gynnal yn ddiweddarach yr wythnos hon.