Marwolaethau tân Llangamarch yn 'sioc drwy'r gymuned'
- Cyhoeddwyd
Mae Kirsty Williams wedi dweud fod y marwolaethau yn dilyn tân mewn pentref ym Mhowys wedi achosi "sioc drwy'r gymuned".
Ychwanegodd Aelod Cynulliad Brycheiniog a Maesyfed fod y marwolaethau'n "drychineb ofnadwy", ac y byddai pobl leol yn teimlo'r golled "i'r byw".
Mae'r ymchwiliad yn parhau ddydd Mawrth i dân mewn tŷ yn Llangamarch lle bu farw nifer o bobl.
Dywedodd yr heddlu bod tri phlentyn wedi llwyddo i ddianc o'r adeilad yn Llangamarch, ger Llanwrtyd, ond bod sawl person, gan gynnwys plant, wedi marw.
Mae un o'r bobl sydd ar goll wedi'i enwi'n lleol fel David Cuthbertson. Y gred yw ei fod yn ei 60au, a'i fod yn byw yn y tŷ â sawl un o'i blant.
Cadarnhau marwolaethau
Nid oedd yr heddlu'n gallu cadarnhau nifer y marwolaethau ddydd Llun oherwydd "niwed difrifol ar y safle, a chyflwr y tŷ".
Cafodd y plant a lwyddodd i ddianc - oedd yn 13, 12 a 10 oed - eu cludo i'r ysbyty am driniaeth.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am tua hanner nos ar 30 Hydref.
Dywedodd y Gwasanaeth Tân ac Achub bod y fflamau wedi "datblygu'n sylweddol" erbyn iddyn nhw gyrraedd.
Brynhawn ddydd Llun dywedodd y Prif Uwch-Arolygydd, Richard Lewis: "Yn anffodus mae 'na nifer o bobl heb eu lleoli, ond gallwn gadarnhau fod yna farwolaethau."
Ychwanegodd y Ditectif Brif Arolygydd, Martin Slevin: "Does neb yn gallu rhoi ateb pendant ynglŷn â phwy oedd yn bresennol neu ddim yn bresennol ac mae'n rhy gynnar i geisio rhoi amcan o bwy oedd yno."
'Teimlo i'r byw'
Wrth ymweld â'r pentref ddydd Mawrth dywedodd Ms Williams: "Mae'n rhywbeth sy'n cael ei ddweud yn aml ond mae hefyd yn wir i ddweud fod pawb yn 'nabod ei gilydd yn Llangamarch.
"Roedd pobl yn 'nabod ac yn hoff o'r teulu a bydd y gymuned yn teimlo hyn i'r byw.
"Mae'r gymuned yma wir mewn sioc, ac mae'r sioc yna'n troi yn alar a cholled enbyd. Mae hon yn gymuned glos ble mae pawb yn helpu'i gilydd."
Ychwanegodd: "I'r bobl ifanc yn enwedig, bydd angen y gefnogaeth honno arnyn nhw dros y misoedd i ddod. Maen nhw'n galaru cymaint ar hyn o bryd."
Yr hyn ddigwyddodd ar 30 Hydref
00:15 - Galw'r gwasanaethau brys i dân mewn tŷ oedd wedi datblygu'n sylweddol, tri o blant wedi llwyddo i ddianc;
03:00 - Galw Tîm Achub Mynydd Aberhonddu i chwilio'r tir o gwmpas y tŷ;
12:00 - Pryder bod nifer wedi marw yn y tân gyda nifer o bobl heb eu lleoli, timau arbenigol yn parhau i asesu'r sefyllfa;
16:00 - Cynghorydd Tim Van-Rees yn dweud bod un o'r plant wedi rhoi gwybod bod tân wedi dechrau;
17:00 - Uwch-Arolygydd Richard Lewis yn dweud bod nifer o farwolaethau ond nad oes modd cadarnhau niferoedd oherwydd y difrod;
20:30 - Un o'r bobl y credir oedd yn y tŷ pan ddigwyddodd y tân yn cael ei enwi'n lleol fel David Cuthbertson.
Dywedodd y cynghorydd Tim Van-Rees ei fod yn "sioc ofnadwy ac yn ergyd drom" i'r gymuned.
"Fel un o lywodraethwyr yr ysgol leol, roeddwn i'n dod i gyswllt gydag o [David Cuthbertson] ac roedd o'n sicr yn dad ymroddedig i'w blant," meddai.
"Mae ganddo deulu eraill yn byw yn lleol, ac rydyn ni'n meddwl amdanyn nhw ar yr adeg yma.
"Yn fy mhrofiad i mae digwyddiad o'r math yma'n hollol ddigynsail, ac mae'n mynd i gymryd tipyn o amser i'r gymuned ddygymod â'r peth."
Ychwanegodd AS Brycheiniog a Maesyfed, Chris Davies fod pobl yr etholaeth yn ddigalon iawn ar ôl clywed am y marwolaethau.
"Fel tad i ddwy o ferched fy hun, mae'r newyddion yma wedi fy ysgwyd i'r byw," meddai.
"Rydw i'n meddwl am y teulu a'r gymuned leol yn ystod y cyfnod ofnadwy yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2017