Arriva i roi'r gorau i redeg gwasanaethau trenau Cymru
- Cyhoeddwyd
Fe fydd Trenau Arriva Cymru yn rhoi'r gorau i redeg gwasanaethau trên Cymru a'r Gororau.
Mae'r cwmni wedi penderfynu peidio bwrw ymlaen â'r broses dendro i redeg y gwasanaethau yng Nghymru yn y dyfodol "am resymau masnachol".
Arriva sydd wedi bod yn gyfrifol am y gwasanaethau ers 2003.
Mae'r broses dendro yn parhau, gyda thri chwmni arall yn y ras i gymryd yr awenau ar reilffyrdd Cymru o 2018.
Proses 'anodd a dyrys'
Mewn datganiad, dywedodd Trenau Arriva Cymru eu bod wedi "cael gwybod bod Arriva Group wedi tynnu 'nôl o'r broses".
"Ein blaenoriaeth dilyn y cyhoeddiad hwn yw parhau i ganolbwyntio ar ddelifro ein gwasanaethau ar gyfer y bobl a'r cymunedau sy'n dibynnu arnon ni ar gyfer gweddill y fasnachfraint bresennol, gan gynnwys buddsoddiad £1m mewn trenau newydd i'w cyflwyno yn 2018," meddai Tom Joyner o'r cwmni.
Mae corff Trafnidiaeth Cymru, sy'n gyfrifol am y broses dendro, yn cydnabod bod y broses o dendro yn "anodd a dyrys".
"Nid yw'n anarferol i gwmnïau sy'n ymgeisio am brosiectau mawr dynnu yn ôl yn ystod y broses dendro, ac mae Arriva wedi bod yn glir ei fod wedi gwneud hyn ar sail ei resymau masnachol ei hunan," meddai'r corff mewn datganiad.
"Mae'r broses gaffael yn un anodd a dyrys, ac rydym yn cydnabod gwaith helaeth Arriva hyd yma.
"Hoffem ddiolch i'r cwmni am ei gefnogaeth a'i agwedd gadarnhaol ers dechrau'r broses gaffael a byddwn yn parhau i gydweithio'n agos â'r cwmni i sicrhau bod y staff a'r cwsmeriaid presennol yn cael lle canolog wrth inni fynd ati dros y 12 mis nesaf i gynllunio'r cyfnod pontio.
Mewn ymateb, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, ei bod yn "bryderus iawn" gweld Arriva'n troi cefn ar y broses a'i fod yn "gofyn cwestiynau mawr am gyfraniad Llywodraeth Cymru i'r broses dendro."
Cwmnïau Abellio, KeolisAmey a MTR sydd ar ôl yn y broses i ennill masnachfraint nesaf Cymru a'r Gororau, fydd yn cynnwys uwchraddio'r rhwydwaith yng Nghaerdydd a'r cyffiniau fel rhan o gynllun Metro De Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2017
- Cyhoeddwyd29 Medi 2017
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2016