Gwrthod cais i adeiladu parc solar enfawr ar Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
A solar arrayFfynhonnell y llun, PA

Mae cynghorwyr Ynys Môn wedi gwrthod cais i adeiladu parc solar fwyaf Cymru ar safle ger Amlwch yng ngogledd yr ynys.

Roedd swyddogion wedi argymell derbyn y cynllun ond fe wrthodwyd y cais gan gynghorwyr sir.

Bydd y mater y cael ei drafod eto gan gynghorwyr mewn tua mis.

Mae'r datblygwyr yn ceisio adeiladu parc solar a fyddai yn gorchuddio 90 hectar (222 acer) yn Rhosgoch, rhwng Cemaes ac Amlwch.

Byddai'r paneli yn cynhyrchu digon o drydan, 49MW, i gyflenwi 15,500 o dai - tua hanner poblogaeth yr ynys.

Mae 100 datganiad o wrthwynebiad wedi eu cyflwyno i'r datblygiad, yn bennaf ynglŷn â maint y cynllun a'r effaith ar yr amgylchedd.