James Collins yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol
- Cyhoeddwyd
Mae amddiffynnwr Cymru, James Collins wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.
Roedd y chwaraewr 34 oed, sydd bellach gyda West Ham, wedi ennill 50 o gapiau dros ei wlad, gyda'r olaf o'r rheiny yn dod yn erbyn Moldofa llynedd.
Dywedodd y rheolwr Chris Coleman y gallai Collins fod ar gael petai argyfwng anafiadau, ond nad oedd yn disgwyl ei weld eto yn chwarae dros ei wlad.
"Mae'n bechod achos dwi wir wedi mwynhau gweithio gydag e," meddai.
'Dyma'r adeg iawn'
Mewn neges ar Instagram dywedodd Collins fod rhai o adegau "mwyaf balch" ei yrfa wedi dod tra'i fod yn gwisgo'r crys coch, a'i fod wedi cael y cyfle i "herio goreuon y byd".
"Ond mae'r amser wedi dod i mi gamu o'r neilltu a gadael i'r bechgyn ifanc arwain ein gwlad ni ymlaen i bethau gwych," meddai.
"Mae wedi bod yn benderfyniad anodd i ddod iddo, gadael criw mor wych o fois a'r rheolwr penigamp Chris Coleman a'i staff, ond dwi'n teimlo mai dyma'r adeg iawn.
"Hoffwn i ddiolch i'r rheolwr, y staff a'r bois i gyd am roi amser fy mywyd i mi yn yr Euros llynedd, wnâi na'r teulu fyth ei anghofio.
"Rydw i hefyd eisiau diolch i gefnogwyr rhyfeddol Cymru sydd wedi bod yn gefn i mi a'r tîm drwy bopeth dros y blynyddoedd, fydden ni ddim wedi gallu cyflawni beth wnaethon ni heb eich cefnogaeth. Diolch!"
Enillodd Collins ei gap cyntaf yn 2004, mewn gêm gyfartal yn erbyn Norwy, ac wedi hynny bu'n bresenoldeb cyson yn amddiffyn Cymru.
Ond yn y blynyddoedd diweddar mae wedi bod ar gyrion y garfan, gydag Ashley Williams, James Chester a Ben Davies fel arfer yn ddewis cyntaf o'i flaen.
Cafodd Collins a Coleman ffrae yn 2013 yn dilyn honiad fod yr amddiffynnwr wedi gwrthod ymuno â'r garfan ar gyfer gêm yn erbyn Serbia, ond fe wnaeth y ddau gymodi yn fuan wedyn.
Roedd y gŵr o Gaerdydd yn rhan o garfan Cymru yn Euro 2016, ac fe chwaraeodd yn y gemau yn erbyn Gwlad Belg a Phortiwgal.
'Cymeriad pwysig'
Yn ystod ei yrfa ryngwladol fe sgoriodd dair gôl, gyda'r olaf o'r rheiny yn dod mewn buddugoliaeth dros Wlad yr Ia yn 2014.
"Roedd e'n bwysig yn Ffrainc achos mae e'n llais mor fawr ac yn gymeriad mor fawr," meddai Coleman.
"Roedd e'n wych i ni. Wnaeth e ddim chwarae'r gemau i gyd ond fe fyddai'n gweld colled ar ei ôl e achos o'i bersonoliaeth.
"Ond dwi'n parchu ei benderfyniad."