Richard Simcott: Y dyn sy'n siarad 25 iaith yn rhugl

  • Cyhoeddwyd
Daw Richard Simcott o Gaer yn wreiddiol, ond mae bellach yn byw ym Macedonia
Disgrifiad o’r llun,

Mae Richard bellach yn byw ym Macedonia

"Gyda'r un iaith mae gennym nid yn unig yr un geiriau a gramadeg, ond hefyd hunaniaeth y bobl."

I nifer ohonom mae dysgu iaith newydd yn uchelgais gydol oes. Ond mae'r hyperpolygot Richard Simcott o Gaer wedi cyflawni hyn drosodd a throsodd.

"Mae'n anodd dweud sawl iaith dwi'n siarad," meddai. "Dwi wedi astudio tua 50, ac yn defnyddio tua 25 yn rheolaidd."

Mae gan ei deulu wreiddiau yng Nghaernarfon, ac fel plentyn yng Nghaer roedd y Gymraeg ac ieithoedd eraill i'w clywed yn amlwg o amgylch y ddinas.

"Mae gennym ni lot o bobl sy'n siarad Cymraeg yng Nghaer, a hefyd ieithoedd fel Pwyleg.

"Dwi'n meddwl ei bod yn bwysig siarad gyda phobl mewn ieithoedd eraill yn eich ardal eich hun, a gwrando ar eu barn nhw."

Dysgu Slovak mewn pythefnos

Fe wnaeth y Gymraeg ysbrydoli Richard mewn mwy nag un ffordd: "Dysgais o Gymru ei bod yn bosib siarad dwy iaith gyda phlentyn.

"Fe wnes i hyn gyda fy mhlentyn gyda Ffrangeg a Saesneg. Mae hi rŵan yn siarad Sbaeneg, Macedoneg ac Almaeneg hefyd - a thipyn bach o Gymraeg yn naturiol!"

Mae Richard bellach yn byw ym Macedonia, ar ôl cyfnodau'n astudio a gweithio mewn nifer o wledydd eraill.

Dysgodd Arabeg, Japanaeg ac ieithoedd Sgandinafaidd wrth astudio yn Sweden.

Disgrifiad,

Mae Richard Simcott wedi astudio dros 50 o ieithoedd ac yn rhugl mewn dros 25

Gall yr amser mae'n cymryd i ddysgu iaith amrywio'n fawr.

"Fe ddysgais Slovak mewn dwy wythnos, oherwydd roeddwn i'n siarad Checeg a Phwyleg yn rhugl a dyw'r ieithoedd ddim yn rhy wahanol. Ond gall iaith newydd fel Cwreg gymryd blynyddoedd!

"Un peth dwi'n gwneud ydy meddwl yn yr ieithoedd. Does dim cyfle i siarad Cymraeg ym Macedonia felly dwi'n darllen i ddefnyddio'r iaith, mae'n bwysig gwneud hynny. Dwi'n gwrando ar ieithoedd eraill pob dydd."

Harddwch iaith Gwlad yr Iâ

Mae Richard yn rhan amlwg o gymuned ar-lein o bobl sy'n dysgu nifer fawr o ieithoedd ac mae'n rhannu ei brofiadau ar ei wefan, dolen allanol a sianel YouTube, dolen allanol, a chynnig anogaeth ac ysbrydoliaeth i ddysgwyr eraill.

Mae hefyd yn trefnu cynhadledd The Polyglot Conference sy'n dod â dysgwyr o bob cornel o'r byd at ei gilydd i drafod perthynas ieithoedd gyda llwyth o wahanol bynciau.

Cafodd cynhadledd eleni ei chynnal yn Reykjavík ac, fel mae'n digwydd, Islandeg yw ei hoff iaith am ei bod yn swnio mor hardd.

Pa iaith sydd nesaf ar ei restr hir o ieithoedd i'w dysgu?

"Dros y Nadolig rydym yn mynd i Malta a dwi eisiau siarad ychydig o Falteg, ond dwi ddim yn meddwl byddai yn rhugl erbyn hynny! Mae'n teimlo'n grêt gallu sgwrsio ychydig bach gyda'r bobl."

Mae dysgu ieithoedd wedi agor drysau ar draws y byd i Richard ac, er mor anodd yw gwneud hynny, byddai'n annog pawb i fynd ati i ddysgu iaith newydd.

"Rhaid i berson wybod pam eu bod am ddysgu iaith newydd," meddai. "Dyw bod yn cŵl ddim yn ddigon, mae'n rhaid i chi weithio.

"Gwnewch rywbeth rydych yn mwynhau ei wneud yn yr iaith rydych chi'n dysgu."

Efallai o ddiddordeb...